Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		10fed Wythnos Fusnes Sir y Fflint yn llwyddiant ysgubol
  		Published: 07/10/2016
Mae digwyddiad busnes blaenllaw Cyngor Sir y Fflint, Wythnos Fusnes Sir y 
Fflint, sydd bellach yn ei 10fed flwyddyn, wedi ei ddisgrifio fel llwyddiant 
ysgubol.
Mae鈥檙 digwyddiad, mewn cydweithrediad ag AGS Security Systems a Westbridge 
Furniture Designs, yn un o鈥檙 digwyddiadau pwysicaf o鈥檌 fath yn yr ardal, gan 
ddenu dros 2,000 o fusnesau鈥檔 rheolaidd.  Maen cefnogir gymuned fusnes yn y 
sir ac, yn gynyddol, y rhanbarth ehangach, i hyrwyddo eu cwmn茂au, i ddatblygu 
cyfleoedd masnachu ac i godi proffil yr ardal fel lle i fuddsoddi ynddo.
Dymar drydedd flwyddyn ir digwyddiad gael ei arwain gan y Gwir Anrhydeddus 
Arglwydd Barry Jones, sydd yn Llywydd Wythnos Fusnes Sir y Fflint, yn ogystal 芒 
Llywydd Cynghrair Merswy a Dyfrdwy.  Mae gan yr Arglwydd Jones brofiad enfawr o 
weithio i helpu diwydiant yng Nghymru a Glannau Dyfrdwy.   
Mae uchafbwyntiaur rhaglen yn cynnwys yr Arddangosfa Fusnes Rhanbarthol, 
digwyddiad Cyflogaeth a Gwybodaeth, noson Swyddi a Sgiliau Rhanbarthol; 
seminarau Economi ac Uchelgais a digwyddiad Rhwydwaith Twristiaeth - yn cwmpasu 
pob agwedd ar yr economi lleol bywiog.
Agorodd yr Arglwydd Jones yr arddangosfa a siaradodd yn frwd am y digwyddiad:
鈥淢ae鈥檔 anrhydedd mawr, fel gwladgarwr lleol, i fod yma i ddathlu llwyddiant 10 
mlynedd Wythnos Fusnes Sir y Fflint 鈥 hwn yw鈥檙 digwyddiad orau o鈥檙 fath yng 
Nghymru, a Sir Y Fflint yw鈥檙 sir a weinyddir ac arweinir orau yng Nghymru.  
Mae鈥檔 rhaid i mi s么n am y Cynghorydd Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu 
Economaidd sydd ag ysbryd anorchfygol a dyfalbarhad, a鈥檙 Prif Swyddog dros 
Gymuned a Menter, Clare Budden sydd yn benderfynol a chraff.  
鈥淢ae鈥檙 perthnasau a chynghreiriau sydd wedi eu datblygu dros y 10 mlynedd 
diwethaf, a鈥檙 twf busnes newydd a鈥檙 potensial mawr i allforio yr ydym wedi ei 
weld yn datblygu wedi bod yn destament i鈥檙 ysbryd entrepreneuraidd sy鈥檔 
gweithio鈥檔 galed yn y rhanbarth.  Bydd yr ysbryd hwn yn ein rhoi mewn lle da 
fel mae鈥檙 Cynghrair Merwy a Dyfrdwy yn parhau i weithio gyda鈥檔 partneriaid yng 
Nghymru a dros y ffin yn Lloegr.   Rydym yn cyfarch Vauxhall, Toyota ac Airbus, 
ond mae diolch i chi am ein hadferiad 鈥榮teil phoenix鈥 - y Busnesau bach a 
chanolig, entrepreneuriaid, ymgynghorwyr, cludwyr, gan enwi dim ond ychydig.
Eleni, ymfalch茂odd yr Arddangosfa am gael dros 60 o arddangoswyr a dros 800 o 
gynrychiolwyr yn ymweld 芒r stondinau yn ystod y dydd.
Un or arddangoswyr sy鈥檔 么l am y drydedd flwyddyn yw Natalie Wood, Rheolwr 
Gyfarwyddwr Letterbox Recruiting, a adleisiodd lawer o safbwyntiau鈥檙 
arddangoswyr drwy ddweud:
 鈥淕an fod gennym swyddfeydd ar draws Gogledd Cymru, mae digwyddiadau fel hyn yn 
ddefnyddiol iawn ar gyfer rhwydweithio gyda chwmn茂au eraill a gwneud 
cysylltiadau newydd.  Mae busnes yn bendant yn ffynnu ac rydym yn awyddus iawn 
i wneud busnes gyda chwmn茂au lleol eraill ac i gadw talent leol yn yr ardal.鈥
Y diwrnod canlynol, aeth cannoedd o bobl i Ddigwyddiad Cyflogaeth a Gwybodaeth 
yn Neuadd Ddinesig Cei Connah. 
Roedd modd i gyflogwyr o wahanol sectorau, gan gynnwys Ralawise, Lend Lease, 
Kingswood a grwp bwyd 2 Sisters arddangos eu busnesau ac roedd modd i geiswyr 
gwaith ddod o hyd ir llwybr ar cymwysterau sydd eu hangen i fod yn 
llwyddiannus yn y meysydd hyn. Roedd asiantaethau recriwtio gan gynnwys Blue 
Arrow, Travail ac Enbarr Enterprises hefyd yn hysbysebu eu swyddi gwag 
presennol a swyddi gwag sydd i ddod. 
Roedd dros 300 o swyddi gwag ar gael gydag ymgeiswyr yn manteisio ar y 
gefnogaeth ar y dydd i lenwi ffurflenni cais, a chafodd nifer o gyfweliadau 
eu trefnu ar y diwrnod.  
Roedd cynrychiolwyr Clwb Menter Cymunedau yn Gyntaf yn bresennol i hyrwyddo 
cyfleoedd entrepreneuraidd yn Sir y Fflint a鈥檙 gefnogaeth sydd ar gael i鈥檙 
rheiny sydd eisiau cychwyn eu busnes eu hunain.  Roedd Gyrfa Cymru wrth law i 
gynnig cymorth a chyngor wedii deilwra yn ymwneud 芒 sgiliau cyfweliad ac 
argraffiadau cyntaf.  
Trefnwyd y digwyddiad gan Gymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint, Canolfan Byd Gwaith 
a Gyrfa Cymru. Bu Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint hefyd yn arddangos eu gwaith 
ynghyd 芒 rhaglen Esgyn a Chymunedau ar gyfer Gwaith, a ddatblygwyd i helpu i 
gael gwaith i鈥檙 di-waith hirdymor.  
Daeth llawer i鈥檙 digwyddiad y noson honno, a oedd yn canolbwyntio ar swyddi a 
phrentisiaethau rhanbarthol, gydar prif siaradwr Iwan Thomas, Rheolwr Rhaglen 
Rhanbarthol ar gyfer Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.  Siaradodd am 
ddull T卯m Gogledd Cymru y Bwrdd.  Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd Cynllun 
Sgiliau a Chyflogaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru i ranbarth Gogledd Cymru i 
gyd, cyn ei lansiad swyddogol y bore canlynol yn Venue Cymru, Llandudno.  Bydd 
yr adroddiad hwn yn bwydo i mewn i Lywodraeth Cymru wrth iddynt benderfynu ar y 
cyllid ar gyfer addysg yng Nghymru yn y dyfodol.  
Y siaradwyr eraill oedd Ian Budd, Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, a siaradodd 
am sut mae ysgolion yn Sir y Fflint yn moderneiddio ac yn gweithio gyda 
busnesau i baratoi鈥檙 gweithlu gorau ar gyfer y dyfodol.  Siaradodd Clare 
Budden, Prif Swyddog Cymuned a Menter, a Vicky Barwis, Cyfarwyddwr Dysgu 
Seiliedig Ar Waith a Menter Cyflogwyr Coleg Cambria, am y pwysigrwydd y mae 
Cyngor Sir y Fflint a Choleg Cambria yn ei roi ar brentisiaethau a sut maent yn 
gweithio gyda busnesau lleol ac mewn partneriaeth i annog pobl yn yr ardal leol 
i fanteisio ar brentisiaethau a鈥檜 datblygu.  Maer pwyslais ar gadw sgiliau 
lleol yn yr ardal leol.
Ar nos Iau, cafwyd amrywiaeth o gyflwyniadau ar y pwnc Economi ac Uchelgais. 
Roedd y cyntaf yn canolbwyntio ar uchelgeisiau ar gyfer Twf Economaidd 
Rhanbarthol gan Gynghrair Merswy a Dyfrdwy a Chyngor Sir y Fflint.  Mae 
Cynghrair Merswy a Dyfrdwy yn bartneriaeth rhwng cynghorau Cilgwri, Sir y 
Fflint, Wrecsam a Gorllewin Swydd Caer a Chaer, Mersey Travel a鈥檙 colegau 
Addysg Bellach ac Addysg Uwch a鈥檙 sector preifat. Ei brif nod yw tyfu鈥檙 
economi.  Roedd y cyflwyniad yn cynnwys cryfderau economaidd allweddol, 
sialensiau twf a sut yr eir i鈥檙 afael 芒 hwy, yn ogystal ag anghenion sgiliau.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros 
Ddatblygu Economaidd, sydd hefyd yn Gadeirydd ar Gynghrair Merswy a Dyfrdwy:
鈥淢ae Cynghrair Merswy a Dyfrdwy yn unigryw - dymar unig gynghrair trawsffiniol 
ac mae iddo economi bywiog ar draws pob sector.  Rydym yn ymgyrchu ar gyfer 
gwell seilwaith gyda Rail Track 360 a dau gynnig am dwf yng Ngogledd Cymru a 
Swydd Gaer, ac rydym yn edrych tuag at gael mwy o gysylltedd o ran cyfleoedd 
addysg a chyflogaeth.鈥
Arweiniodd hyn at yr ail siaradwr, Paul Hildreth Bartlett o Goleg Prifysgol 
Llundain, a siaradodd am economi trawsffiniol a chanlyniadau ei ymchwil ar 
economi Merswy a Dyfrdwy. 
Yna, siaradodd Cyngor Sir y Fflint am y pwysigrwydd y maen ei roi ar fod yn 
gyngor syn galluogi twf economaidd mewn amgylchedd heriol i lywodraeth leol
Yn olaf, cyflwynodd Steve Hicks o Fanc Lloegr farn y banc am yr Economi 
Genedlaethol, gan gynnwys y rhagolwg i dwf economaidd y DU, perfformiad y 
farchnad lafur a disgwyliadau o ran prisiau. 
I gloi wythnos gyffrous o ddigwyddiadau oedd y Digwyddiad Rhwydwaith 
Twristiaeth ddydd Gwener 30 Medi yn Danger point, Talacre.  Darparodd y 
digwyddiad y wybodaeth ddiweddaraf am y sector twristiaeth fel cyfres o 
gyflwyniadau 5 munud gan sefydliadau a phartneriaethau cyhoeddus a phreifat, 
gan gynnwys:
路 Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
路 Cymdeithas Dwristiaeth Sir y Fflint
路 Cynllun Llysgenhadon Gogledd Ddwyrain Cymru
路 Theatr Clwyd
路 Band Eang Cyflym Iawn Cymru
Daeth y digwyddiad i uchafbwynt gyda gweithdy i edrych ar effaith y cyfryngau 
cymdeithasol ar dwristiaeth, ennyn diddordeb brandiau a chynnwys a gynhyrchir 
gan ddefnyddwyr. 
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: 
 鈥淢ae Wythnos Fusnes Sir y Fflint unwaith eto wedi dod 芒 channoedd o fusnesau 
ynghyd mewn partneriaeth unigryw a llwyddiannus rhwng y sector cyhoeddus ar 
sector preifat. Rydym wedi cael digwyddiadau a seminarau gwych.  Ar ran y 
Cyngor, rydw i eisiau diolch yn ddiffuant in holl noddwyr ac i鈥檔 partneriaid 
syn gweithio mor galed gyda th卯m busnes y Cyngor i wneud y digwyddiad hwn yn 
bosibl.