Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cymuned yn dathlu gwelliannau i Barc Gwepra
Published: 28/09/2016
Fe fu grwpiau cymunedol, arweinwyr cymunedol a chynghorwyr lleol yn dathlu
cwblhau rhaglen o welliannau a gwaith adnewyddu sylweddol mewn parc lleol yn
ddiweddar.
Mae Parc Gwepra wedi gweld buddsoddiad o 拢583,400 gan Gronfa Treftadaeth y
Loteri dros y pum mlynedd diwethaf sydd wedi arwain at drawsnewid y parc a鈥檌
ddychwelyd i鈥檞 ysblander blaenorol.
Mae鈥檙 grant, a roddwyd i Gyngor Sir y Fflint, wedi ariannur gwaith o adfer
Gerddi鈥檙 Hen Neuadd a gwella gwaith dehongli yn y parc. Mae鈥檙 parc yn gefndir i
Gastell Ewloe, Cofeb Hynafol o鈥檙 11eg ganrif, a godwyd gan y Tywysogion Cymreig
yn ystod brwydrau鈥檙 Mers gydag Edward 1.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros
yr Amgylchedd:
鈥淢ae鈥檙 cyllid hwn wedi bod yn allweddol i wella llwybrau cerdded a dehongli er
mwyn helpu pobl leol ac ymwelwyr i archwilio stori鈥檙 parc, Gerddi鈥檙 Hen Neuadd
a Chastell Ewloe. 鈥淒wi wrth fy modd gyda鈥檙 holl ddatblygiadau a鈥檙 gwaith o
adfer y gerddi. Mae hyn wedi helpu i ddod 芒 rhan bwysig o鈥檙 ardal hanesyddol
hon o Gei Connah, ardal mae llawer yn hoff iawn ohoni, yn 么l yn fyw.鈥
Dywedodd Cadeirydd Cyfeillion Parc Gwepra, Bev Futia:
鈥淢ae hwn wedi bod yn brosiect pum mlynedd, ond in holl wirfoddolwyr mae wedi
golygu llawer o chwys a dagrau! Hoffwn ddiolch i bawb, y t卯m Cefn Gwlad a鈥檔
holl wirfoddolwyr 鈥 pawb sydd wedi helpu i wneud heddiw鈥檔 bosib 鈥 mae eich
gwaith caled wedi dwyn ffrwyth a nawr mae gennym gyfleuster gwych a鈥檙 parc
gwych yma a鈥檙 ardd.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Peter Curtis, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint:
鈥淔e ges i鈥檙 pleser o agor estyniad y ganolfan ymwelwyr newydd 鈥 鈥榊stafell yr
Ardd鈥 y llynedd a dwi鈥檔 rhyfeddu at y gwaith sydd wedi digwydd ers hynny, maer
gerddin edrych yn rhagorol.
鈥淢ae Cyllid Treftadaeth y Loteri wedi galluogir t卯m Cefn Gwlad yma ym Mharc
Gwepra, ar holl wirfoddolwyr oedd yn rhan o hyn, i symud y parc i鈥檙 21 ganrif
a rhoi amgylchedd leol wych i鈥檙 gymuned iw defnyddio ai mwynhau. 鈥淗offwn
ddiolch yn arbennig i bawb sydd wedi cyfrannu at y prosiect hwn dros y
blynyddoedd diwethaf, rydych wedi gwneud gwaith gwych ac yn arbennig y
gwirfoddolwyr, fyddair prosiect ddim wedi ei gwblhau hebddynt. Hoffwn ystyried
y digwyddiad hwn, nid fel dathliad o orffen rhywbeth, ond yn hytrach fel
dathliad o ddechrau newydd.鈥