Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Mwy o gymunedau yn Sir y Fflint yn ystyriol o ddementia
  		Published: 28/09/2016
Mae grwp o drigolion a sefydliadau lleol yn yr Wyddgrug yn gweithio gydai 
gilydd i wneud y dref yn fwy ystyriol o ddementia.  
Mae grwp llywio Ystyriol o Ddementia Yr Wyddgrug, syn cynnwys Cyngor Tref yr 
Wyddgrug, Cyngor Sir y Fflint, Home Instead, Boots a chartref nyrsio鈥檙 Bwthyn, 
wedi dod at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth, lleihau stigma a gwella cefnogaeth 
i bobl leol sydd wedi eu heffeithio gan ddementia.
Maer grwp wedi ysgrifennu cynllun gweithredu syn cynnwys sefydlu a chefnogi 
Caffis Cof lleol a chynnal nifer o sesiynau ymwybyddiaeth Cyfeillion Dementia 
yng nghanol y dref.  
Derbyniodd y grwp statws gweithio i fod yn fwy ystyriol o ddementia鈥 yn 
ddiweddar gan y Gymdeithas Alzheimer dan y broses gydnabyddiaeth swyddogol 
Cymunedau syn Ystyriol o Ddementia.  O ganlyniad, maent yn awr yn chwilio am 
fwy o fusnesau, gwasanaethau a sefydliadau lleol i gymryd rhan mewn gwneud yr 
Wyddgrug yn fwy cefnogol i bobl syn byw gyda dementia. 
I gymryd rhan neu i gael mwy o wybodaeth, cysylltwch 芒r grwp llywio drwy eu 
cyfeiriad e-bost dementiafriendlymold@gmail.com neu dilynwch nhw ar Facebook 
neu Twitter @dementia_Mold. 
Mae adroddiad gan Gymdeithas Alzheimer, Adeiladu Cymunedau syn Ystyriol o 
Ddementia: Blaenoriaeth ar gyfer pawb, yn dangos bod llai na hanner y bobl 
syn byw gyda dementia yn teimlon rhan or gymuned (47%) a bron i dri chwarter 
(73%) o oedolion y DU a holwyd mewn arolwg YouGov ddim yn meddwl bod y 
gymdeithas yn barod i ddelio 芒 dementia. 
Roedd llawer o bobl 芒 dementia yn dweud eu bod yn teimlo鈥檔 gaeth yn eu cartrefi 
eu hunain ac yn cael eu gadael i lawr gan eu cymunedau, gydag un mewn tri yn 
unig yn mynd allan unwaith yr wythnos ac un o bob 10 yn unig ond yn llwyddo i 
wneud hyn unwaith y mis.
Mae 1969 o bobl yn byw gyda dementia yn Sir y Fflint a bydd creu cymuned sy鈥檔 
ystyriol o ddementia yn helpu i leihau stigma a gwneud i bobl deimlon hyderus, 
cael eu deall au cefnogi i fod yn rhan werthfawr o gymdeithas. 
Yng Ngogledd Cymru, mae pum cymuned sydd wedi derbyn statws gweithio tuag at 
fod yn ystyriol o ddementia鈥. 
Mae tair or pum cymuned yn Sir y Fflint.
Yn gynharach eleni, yn yr un wythnos, cafodd y Fflint a Bwcle eu cydnabod yn 
ffurfiol gan Gymdeithas Alzheimer fel cymunedau sy鈥檔 ystyriol o ddementia.   
Nhw oedd y cyntaf yng Ngogledd Cymru i dderbyn achrediad or fath ac mae llawer 
o ddinasoedd, trefi a phentrefi bellach yn edrych ar beth sydd angen iddynt ei 
wneud er mwyn cefnogi pobl sydd 芒 dementia yn well au galluogi i fyw yn dda yn 
y gymuned.  
Dywedodd Cynghorydd Sir y Fflint, Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau 
Cymdeithasol:
 鈥淢aer Fflint a Bwcle yn gweithion galed i gyflawni cydnabyddiaeth gan y 
Gymdeithas Alzheimer ac rwyn falch iawn bod Yr Wyddgrug bellach wedi ymuno 芒 
nhw.  Maen dyst gwirioneddol ir bobl ofalgar sy鈥檔 gweithion galed yn ein sir 
i gael tair allan or pum tref sydd 芒鈥檙 statws hwn.   Bydd y Cyngor yn parhau i 
weithio gyda threfi eraill iw helpu i gyflawni cymuned sy鈥檔 ystyriol o 
ddementia lle mae pobl 芒 dementia yn cael eu deall, eu parchu, eu cefnogi ac yn 
hyderus y gallant gyfrannu at fywyd y dref.鈥
Meddai Jacky Baldini, Rheolwr Gweithrediadau Cymdeithas Alzheimer yng Ngogledd 
Cymru:
 鈥淢ae cymuned sy鈥檔 ystyriol o ddementia yn ddinas, tref neu bentref lle mae 
pobl 芒 dementia yn cael eu deall, eu parchu, eu cefnogi, ac yn hyderus y 
gallant gyfrannu at fywyd y gymuned. 鈥淢aen wych i glywed am y gwaith 
cadarnhaol syn digwydd yn yr Wyddgrug. Maent yn gosod safon uchel ac rwy鈥檔 
gobeithio y bydd llawer mwy yn dilyn ar draws Gogledd Cymru. Rydym am i bobl o 
bob cefndir i ymuno 芒r mudiad Cymunedau sy鈥檔 Ystyriol o Ddementia.
 鈥淓r ei bod yn dda gweld pa mor bell yr ydym wedi dod, yn anffodus mae gormod o 
bobl 芒 dementia syn dal i deimlo nad ydynt yn cael eu cefnogi ac yn rhan ou 
hardal leol; maent yn teimlo eu bod yn gaeth yn eu cartref eu hunain, yn 
ynysig, yn unig ac yn faich.
 鈥淢aen bosibl gwneud newidiadau bach a fydd yn gwneud eu bywyd bob dydd yn 
llawer gwell ac yn eu helpu i aros yn rhan o gymuned am gyfnod hwy. Byddwn yn 
annog pawb i gael gwybod mwy am sut y gallwch chi ach cymdogaeth ddod yn 
gymuned sy鈥檔 ystyriol o ddementia.鈥
I gael mwy o wybodaeth ar Gymunedau sy鈥檔 Ystyriol o Ddementia ar broses 
gydnabyddiaeth swyddogol, cysylltwch 芒 Jo Lane,
Cydlynydd Cymunedau syn Ystyriol o Ddementia ar gyfer Gogledd Cymru ar 01352 
700728 neu jo.lane@alzheimers.org.uk.