Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Offer achub bywyd yn cael ei dargedu
  		Published: 27/09/2016
Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint yn pryderu am fandaliaeth barhaus 
i orsafoedd cylch achub ger Pwll Condies yn Bettisfield, safle y maen rheoli 
ym Magillt, ac yn Noc Greenfield. 
Yn Bettisfield, mae cylch achub wedi cael ei fandaleiddio 7 gwaith ers mis Mai, 
ac ar un achlysur cafodd cylch achub a llinell daflu eu dwyn. Mae鈥檙 orsaf cylch 
achub wedi cael i ddifrodi ddwywaith ac wedi gorfod cael ei drwsio. 
Yn Greenfield, mae鈥檙 orsaf cylch bywyd cyfan wedi cael ei rwygo allan. 
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd:
鈥淢aer darn hanfodol o offer achub bywyd wedi cael ei ailosod yn gyflym, ond 
mae cyfnodau o amser pan nad yw wedi bod yn hygyrch oherwydd gweithredoedd 
difeddwl a hunanol pobl eraill. Mae yna gost i鈥檞 dalu er mwyn trwsio ac ailosod 
yr offer sydd wedi鈥檌 ddifrodi, a gofynion ychwanegol ar ein Ceidwaid Gwasanaeth 
Cefn Gwald sydd angen ymateb i鈥檙 digwyddiadau hyn fel blaenoriaeth鈥.
鈥淢aer offer wedi cael ei osod am reswm da ac maen bryder os bydd yr ymddygiad 
gwrthgymdeithasol yn parhau, efallai na fydd yr offer achub bywyd ar gael pan 
fydd ei angen. Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cael gwybod am y digwyddiadau hyn 
a buaswn yn annog aelodaur cyhoedd i roi gwybod i鈥檙 Heddlu am unrhyw ymddygiad 
amheus o amgylch y safle, neu gysylltu 芒鈥檔 Gwasanaeth Cefn Gwlad drwy ffonio 
01352 703900.鈥
Nodyn i olygyddion
Yn y llun sydd ynghlwm ger gorsaf cylch bywyd Pwll Condies y mae aelod lleol y 
Cyng. Mike Reece a鈥檙 Ceidwad Cefn Gwlad Tim Johnson.