Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gwyl Goleuni Abaty Dinas Basing
  		Published: 20/09/2016
Bydd gwyl tafluniadau golau a gweithgareddau addas ir teulu yn rhad ac am ddim 
yn cael ei gynnal yn Abaty Dinas Basing, Maesglas, ddydd Sadwrn 15 Hydref 2016.
 
Bydd Gwyl Goleuni eleni yn arddangos asedau, amgylchedd a threftadaeth arfordir 
Sir y Fflint. 
 
Maer digwyddiad yn dechrau am 4pm ac yn gorffen am 7:30pm ac mae鈥檔 rhad ac am 
ddim. Bydd cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai gwneud llusernau ac offerynnau 
taro gydag artistiaid lleol, i wrando ar gerddoriaeth acwstig fyw, dewch 芒 
phicnic neu fwynhau BBQ ar y safle, cymryd rhan mewn gorymdaith llusernau 
gydar hwyr ac yna mwynhau diweddglo perfformiad dawns a thafluniadau, a fydd i 
gyd wedi eu creu yn arwain i fyny at y digwyddiad. 
 
Mae gosodiadau celf arbenigol, darnau dawns, tafluniadau ffilm, cerddoriaeth a 
gweithdai yn cael eu creu gan NEW Dance, artistiaid Ben Davis, Judith Wood, Rob 
Spaull, Ynyr Llwyd a Honor Pedican yn benodol ar gyfer yr wyl. Bydd hyn yn cael 
ei gyflawni drwy weithio gyda chyfranogwyr o amrywiaeth o gymunedau arfordirol 
ac ysgolion Sir y Fflint mewn amrywiaeth o weithgareddau drwy gydol mis Medi. 
 
Bydd cerddoriaeth fyw gan gerddorion acwstig lleol, ar y llwyfan y tu mewn ir 
abaty, a gorymdaith llusernau cyfnos yn ychwanegu at yr awyrgylch yn yr wyl am 
ddim i bob oed i greu cyfarfyddiad y gobeithir y bydd yn rhoi persbectif newydd 
ar hanes a thirweddaur rhanbarth i bobl, ysbrydoli creadigrwydd yn y rhanbarth 
ac yn annog pobl i archwilior arfordir.
 
Dywedodd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu 
Economaidd: 
 
鈥淩ydym yn falch o fod yn arddangos ein cymunedau arfordirol amrywiol, ddeniadol 
a bywiog a threftadaeth gysylltiedig fel y brif nodwedd yn ystod Gwyl Goleuni 
Dinas Basing.  Rwyf yn siwr y bydd ymwelwyr 芒n rhanbarth arfordirol hardd yn 
mwynhaur digwyddiad yn fawr iawn ac yn dychwelyd yn y dyfodol i edrych ar yr 
ystod lawn o atyniadau ymwelwyr sydd gan Sir y Fflint iw cynnig.鈥  
 
Meddai llefarydd ar ran y Gronfa Loteri Fawr: 鈥淢ae Cymunedau Arfordirol yn 
rhannu ymdeimlad cryf o le a bydd y cyllid ar gyfer y digwyddiad hwn yn cael 
effaith bositif ar economir ardal leol ai chymunedau.鈥
Maer wyl yn cael ei threfnu gan d卯m celfyddydau, diwylliant a digwyddiadau 
Cyngor Sir y Fflint gyda chymorth ariannol gan Gronfa Cymunedau鈥檙 Arfordir a 
Cadw.  Mae Cronfa Cymunedaur Arfordir yn cael ei chyllido gan y Llywodraeth 
gydag incwm o asedau morol Yst芒d Y Goron. Mae鈥檔 cael ei ddarparu gan y Gronfa 
Loteri Fawr ar ran Llywodraeth y DU ar Gweinyddiaethau Datganoledig yng 
Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru.