天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Datganiad ir wasg Cabinet - Medi 2016

Published: 19/09/2016

Gweledigaeth a Strategaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru Mae Llywodraeth y DU wedi gwahodd rhanbarth Gogledd Cymru i wneud Cynnig i gyflawni twf economaidd cyflym drwy fuddsoddi mewn isadeiledd, a sgiliau a thrwy gyflwyno rhyddid a hyblygrwydd newydd ar gyfer y rhanbarth, gan gynnig mwy o reolaeth leol. Mae hyn yn golygu bod y rhanbarth yn cael ei chydnabod o ran ei hun. Mae鈥檙 Weledigaeth, syn rhoi cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio economaidd yn y dyfodol yn cael ei chyflwyno i bob un o chwe chyngor Gogledd Cymru i鈥檞 fabwysiadu ac yn cael ei gefnogi gan arweinwyr a phrif weithredwyr y chwe awdurdod unedol yn y rhanbarth, Cyngor Busnes Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor , Prifysgol Glyndwr, Coleg Cambria, Grwp Llandrillo - Menai (Coleg) a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Mae hyn wedi bod yn bosibl drwy gydweithio a gwaith partneriaeth a chyfranogiad cryf yn y sector preifat. Maen amlinellu nodau ac uchelgeisiau ar gyfer rhanbarth hyderus, cydlynol gyda thwf economaidd cynaliadwy, sy鈥檔 manteisio ar lwyddiant sectorau economaidd gwerth uchel ai gysylltiad ag econom茂au Powerhouse Gogledd Lloegr ac Iwerddon.鈥 Maer rhanbarth yn ystyried y Cynnig ar gyfer Twf fel un or cerbydau i sicrhau buddsoddiad i gyflawni nodau a dyheadaur Weledigaeth o rwan hyd at 2035. Ochr yn ochr 芒r Weledigaeth a鈥檙 Strategaeth ar gyfer Twf, sefydlwyd tasglu rheilffyrdd Gogledd Cymru a Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy i gydlynu camau gweithredu a lleihau cymhlethdod sefydliadol yn yr ardal drawsffiniol unigryw. Maen darparu dull unigol i gyflenwi mewn ardal o bum Ardal Fenter, wyth Awdurdod Lleol, dwy lywodraeth genedlaethol a sector preifat ffyniannus ac amrywiol. Mae partneriaid wedi eu halinio i gydnabod un ardal economaidd ac un rhwydwaith gludiant unedig i鈥檞 gwasanaethu. Mae gan y buddsoddiad mewn gwellar rheilffyrdd y potensial i drawsnewid yr economi a chynnig gwell cyfleoedd mynediad i鈥檔 gweithlu y tu mewn ar tu allan ir rhanbarth. Cyflwynwyd y prosbectws i lywodraethaur DU a Chymru ac mae gwaith ar y gweill i fynd ati i ddatblygu blaenoriaethau cynnar. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢ae Gogledd Cymru yn rhanbarth unedig gydag ymdeimlad cryf o hunaniaeth ac mae鈥檙 Weledigaeth yn amlinellu uchelgais clir y rhanbarth i ddatblygu isadeiledd, sgiliau a chyflogaeth, a thwf busnes a allai, os yw鈥檔 llwyddiannus, weld gwerth economi Gogledd Cymru yn cynyddu o 拢12.8 biliwn yn 2015 i 拢20 biliwn erbyn 2035 a chreu 120,000 o gyfleoedd cyflogaeth newydd ychwanegol. 鈥淏ydd Cyngor Sir y Fflint hefyd yn sicrhau bod unrhyw Gynnig ar gyfer Twf yn gysylltiedig iawn 芒 Gogledd Orllewin Lloegr gerllaw gan fod y Weledigaeth hon yn bosibl oherwydd cyfranogiad cryf y sector preifat ac yn adeiladu ar waith Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Chynghrair Drawsffiniol Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy a Phartneriaeth Menter Lleol Swydd Caer a Warrington.鈥 Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo 鈥淕weledigaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru鈥 fel sail ar gyfer trafod gyda Llywodraethaur DU a Chymru dros Gynnig ar gyfer Twf ar gyfer y rhanbarth yn ei gyfarfod nesaf ar 20 Medi. Bydd hefyd gofyn iddo gefnogi a chymeradwyor prosbectws ar gyfer Gwella Rheilffyrdd 鈥淕rowth Track 360鈥. Adroddiad Cyllideb Refeniw Cronfar Cyngor Mabwysiadodd Cyngor Sir y Fflint Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a oedd yn nodir angen i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu gwasanaethau llywodraeth leol allweddol, fel addysg a gofal cymdeithasol, os ywr Cyngor am ddod o hyd i atebion i鈥檙 her y maen ei wynebu ar y gyllideb Mae Sir y Fflint yn gyngor sy鈥檔 derbyn lefel isel o gyllid o dan y fformiwla ariannu llywodraeth leol ac roedd yn wynebu 鈥榖wlch鈥 ariannu cychwynnol o tua 拢20 miliwn mewn un flwyddyn. Mae opsiynau cyfyngedig i ddod o hyd i atebion heb i Lywodraeth Cymru gynnig rhywfaint o gymorth i leihau graddfar gostyngiadau cyllido cenedlaethol. Adroddwyd mai鈥檙 bwlch a ragwelir ar gyfer 2017/18 rhwng incwm a gwariant fydd 拢14.4 miliwn ym mis Gorffennaf 2016. Maer Cyngor wedi datblygu set o gynlluniau cyllideb ar draws ei wasanaethau a fyddain rhoi arbediad llawn o tua 拢6 miliwn. Mae hyn ar ben yr arbedion effeithlonrwydd sylweddol maer Cyngor wedi gwneud dros nifer o flynyddoedd wrth ddiogelu gwasanaethau a swyddi lleol. Yn ei gyfarfod ar 20 Medi, gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint argymell cam cyntaf hwn cynigion y gyllideb ar gyfer 2017/18. Mae gwaith yn parhau o gwmpas opsiynau i wneud arbedion pellach mewn costau corfforaethol ac mewn trafodaethau cenedlaethol o amgylch cyllideb Llywodraeth Cymru a fydd yn cael ei chyhoeddi ddiwedd mis Hydref. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: 鈥淩ydym yn parhau i weithion galed i gynllunio a darparu gwasanaethau cyngor hanfodol, sydd eu dirfawr angen mewn cyfnod o galedi ariannol parhaus a digynsail yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig. 鈥淢ae pob maes gwasanaeth cyngor yn destun adolygiadau helaeth a pharhaus syn ystyried effeithlonrwydd pob gwasanaeth, gwerth am arian, a gallu pob gwasanaeth i ymateb i bwysau ar gostau. Mae鈥檙 gwaith hwn yn dangos mai opsiynau effeithlonrwydd cyfyngedig sydd gan y Cyngor heb orfod lleihau gwasanaethau i lefelau annerbyniol o ddarpariaeth gwasanaeth. 鈥淢ae Sir y Fflint, fel cyngor sy鈥檔 derbyn lefel isel o gyllid, yn arbennig o agored i effeithiau gostyngiadau arwyddocaol blynyddol ar y gyllideb ac mae鈥檙 opsiynau i ddod o hyd i atebion yn gyfyngedig heb i Llywodraeth Cymru rhywfaint o gymorth. Maer risgiau a berir i wasanaethaur Cyngor wedi eu hamlinellu鈥檔 glir i Weinidogion a gweision sifil, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), a chyrff cenedlaethol eraill gan gynnwys Swyddfa Archwilio Cymru. Maer Cyngor hefyd yn cymryd rhan ymarferol mewn trafodaethau cenedlaethol ynghylch Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017/18, gan gynnwys y Setliad Llywodraeth Leol, fel rhan o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac fel cyngor unigol.鈥 鈥淢ae disgwyliadau mawr ar hyn o bryd ac arwyddion cadarnhaol y bydd Llywodraeth Cymru鈥檔 mabwysiadu strategaeth gynaliadwy ar gyfer ariannu鈥檙 sector cyhoeddus i leddfur baich ar awdurdodau lleol fel ein un ni.鈥 Y Cabinet yn ystyried Safonau鈥檙 Gymraeg Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gytuno ar yr Adroddiad Monitror Gymraeg a hefyd nodir cynnydd syn cael ei wneud i weithredu Safonau鈥檙 Gymraeg ( y Safonau) pan fydd yn cyfarfod nesaf ar 20 Medi. Nod cyffredinol y Safonau yw parhau a datblygu gwaith y Cynlluniau Iaith Gymraeg blaenorol. Ei nod yw cynyddu nifer y bobl syn defnyddio gwasanaethau Cymraeg ac mae鈥檔 cynnig arweiniad i sefydliadau ar yr hyn sydd ei angen arnynt i gyrraedd y nod hwn. Maer rhan fwyaf or Safonau yn cyd-fynd 芒r ymrwymiadau a nodwyd yng Nghynllun Iaith Gymraeg blaenorol y Cyngor ac maer Cyngor yn parhau i wella mewn nifer o feysydd fel: 路 y gwaith o gyflwyno鈥檙 鈥楩framwaith Mwy na Geiriau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol gan eu rhoi mewn sefyllfa ardderchog i gwrdd 芒鈥檙 Safonau a darparu gwasanaethau dwyieithog 路 y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg syn cael ei diweddaru i gwrdd 芒r nifer cynyddol o ddisgyblion syn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a thros amser, y nifer o ddarpar weithwyr syn siarad Cymraeg. 路 mae nifer cynyddol o weithwyr yn derbyn hyfforddiant iaith Gymraeg oi gymharu 芒 2014/15. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol, Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢ae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i sicrhau y gellir cyflawni鈥檙 safonau newydd yn ymarferol, gan gydnabod daearyddiaeth a dadansoddiad demograffig o ardal y Cyngor. 鈥淢aer Cyngor hefyd yn datblygu Strategaeth Hyrwyddor Gymraeg pum mlynedd o hyd a pholisi ar gyfer y Gymraeg yn y gweithle er mwyn sicrhau ein bod yn codi proffil y Gymraeg er mwyn helpu i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir a鈥檙 cyfleoedd i weithwyr ddefnyddio鈥檙 Gymraeg yn y gwaith.鈥