Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Diwrnod y Llynges Fasnach
  		Published: 06/09/2016
Am 9:30am ar Ddiwrnod y Llynges Fasnach, 3 Medi, chwifiodd Gyngor Sir y Fflint 
y Lluman Coch yn Neuadd y Sir, yr Wyddgrug er mwyn codi ymwybyddiaeth o 
ddibyniaeth barhaus y DU ar forwyr y Llynges Fasnach. 
Arweiniodd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Peter Curtis, seremoni fer cyn 
codi鈥檙 faner. 
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi galwad cenedlaethol gan elusen Seafarers UK 
a Chymdeithas y Llynges Fasnach i annog chwifio baner swyddogol Llynges Fasnach 
y DU ar adeiladau cyhoeddus a pholion fflagiau o bwys. 
Dywedodd y Cynghorydd Peter Curtis, Cadeirydd y Cyngor: 
鈥淩wyn falch bod Cyngor Sir y Fflint yn ymuno 芒 sefydliadau cyhoeddus eraill 
ledled Cymru ar DU i gydnabod gwaith gwerthfawr y Llynges Fasnach ai 
chyfraniad at les y Genedl.鈥 
Fel 鈥榗enedl sy鈥檔 ynys鈥, mae鈥檙 DU yn dibynnu ar forwyr y Llynges Fasnach ar 
gyfer 95% on mewnforion, gan gynnwys hanner y bwyd yr ydym yn ei fwyta. Mae 
gan y DU y diwydiant porthladdoedd mwyaf yn Ewrop. Mae 75% on hallforion (yn 
么l cyfaint) yn cael eu cludo o borthladdoedd y DU, mae rhai ohonynt yn 
cefnogir ymgyrch drwy annog llongau syn ymweld 芒 hwy i ganu eu cyrn am 10am 
ar 3 Medi.
www.merchantnavyfund.org/merchant-navy-day