Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Pobl leol yn nofio am y fedal aur 
  		Published: 02/09/2016
Cynhaliodd Clwb Nofior Fflint ddigwyddiad 鈥楬yfforddi fel Cystadleuydd 
Olympaidd鈥 yn ddiweddar gyda鈥檙 nod o gael mwy o bobl i gymryd rhan yn y gymuned 
leol. 
Roedd y digwyddiad yn rhan o 鈥業 Am Team GB - ymgyrch cenedlaethol sydd wedi 
ysbrydoli miloedd o glybiaur DU i agor eu drysau i gyfranogwyr newydd. 
Dywedodd Sunita Patel, prif hyfforddwr y clwb nofio: 
 鈥淩oeddem yn hynod o falch o groesawu cynifer o bobl i鈥檙 digwyddiad gwych hwn a 
bod yn rhan o 鈥業 Am Team GB鈥.  Mae chwaraeon yn dod 芒 chymunedau yn agosach at 
ei gilydd ac roeddem yn falch iawn yng Nghlwb Nofior Fflint o fod yn rhan o 
ddathliad cenedlaethol chwaraeon. Roedd cyfle i bobl weld sut yr oeddent yn 
edrych o dan y dwr, rhoi cynnig ar  nofio bynji a rasio fel cystadleuydd yn y 
gemau Olympaidd! 
 鈥淩ydym yn edrych ymlaen at ein taith profiad Olympaidd i ganolfan ddyfrol 
Llundain yn y Parc Olympaidd y mis hwn. Bydd hyn yn rhoi cyfle i鈥檔 nofwyr brofi 
ychydig o鈥檙 hyn y gall nofiwr Olympaidd ei wynebu. 
  
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer 
Gwasanaethau Hamdden:
 鈥淢ae鈥檔 wych fod clybiau chwaraeon lleol yn derbyn y cyfle i hyrwyddo eu camp, 
yn enwedig yn dilyn llwyddiant gwych ein merch leol, Jade, yn ddiweddar.   
Roedd hwn yn gyfle gwych i roi cynnig ar rywbeth newydd a cheisio cyflawni 
potensial yr holl rai syn breuddwydio am fod yn gystadleuydd Olympaidd neu 
Baralympaidd. 
Os ydych chi wedi鈥檆h ysbrydoli ac eisiau gwybod sut i gymryd rhan, cysylltwch 芒 
Chlwb Nofio鈥檙 Fflint ar coachflintasc@hotmail.com. 
Llun: Plant yn mwynhau digwyddiad Hyfforddi fel Cystadleuydd Olympaidd鈥