Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		David yn esgyn i Wates
  		Published: 01/09/2016
Mae dyn lleol wedi cael swydd o ganlyniad i Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint.
Daeth David Jones at Cymunedau yn Gyntaf yng Nghlwb Gwaith Bryn Gwalia ym mis 
Hydref 2014 ar 么l bod yn ddi-waith am dros 3 blynedd.    
Trwy hyfforddiant a chefnogaeth ESGYN, a oedd yn cynnwys mentor 1:1, cafodd 
David ei gyflogi ar gytundeb tymor byr ym mis Hydref 2015 yn gwneud gwaith 
cynhyrchu.  
Pan ddaeth y cytundeb hwn i ben, bu Cymunedau yn Gyntaf, drwy eu t卯m ffyniant, 
yn helpu David i gael prawf gwaith ar safle adeiladu SERS yn y Fflint. Yn dilyn 
y prawf gwaith llwyddiannus, cafodd gynnig swydd fel rhan o welliant y twr o 
fflatiau hyd nes roedd y cytundeb wedii gwblhau. Yn ystod ei gyfnod gyda SERS, 
llwyddodd i fod yn weithiwr y mis.
Mae Cymunedau yn Gyntaf yn gwneud llawer iawn 芒鈥檙 rhaglen budd cymunedau yn Sir 
y Fflint, ac mae ganddi gysylltiadau rhagorol gyda Wates Living Space Homes 
(Wates) yn ogystal 芒 busnesau eraill yn yr ardal.   
Dywedodd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu 
Economaidd:
 鈥淢ae ein staff wedi cefnogi David yn barhaus ar ei lwybr at waith ac fe 
gawsant wybod fod ei gytundeb gyda SERS yn dirwyn i ben. Ar 么l cysylltu 芒 
Wates, roeddent yn medru rhoi gwybod i David am swydd wag a oedd gan y cwmni, 
ac roedd yntaun hapus iawn iw derbyn. 
Dechreuodd David weithio ar y safle yn y Fflint ar 15 Awst 2016. Dywedodd:
 鈥淗eb y cyfleoedd gwych mae ESGYN a Cymunedau yn Gyntaf wedi鈥檜 rhoi i mi, ni 
fyddai hyn wedi digwydd. Roedd cefnogaeth barhaus tra oeddwn yn gweithio yn ran 
allweddol o gyrraedd lle rydw i heddiw. 
Dywedodd Joanne Jamieson, Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Living Space Homes:
 鈥淵n y flwyddyn ers i ni gael ein penodi鈥檔 bartner datblygu Cyngor Sir y Fflint 
ar gyfer y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol, rydym wedi gweithio鈥檔 agos gydar 
Cyngor a rhanddeiliaid lleol, fel Cymunedau yn Gyntaf, i sicrhau bod y 
buddsoddiad mewn cartrefi newydd yn creu cyfleoedd i bobl leol.
 鈥淏yddwn yn parhau i gynnal yr ymrwymiad yma tra byddwn yn cyflawnir rhaglen 
flaenllaw hon wrth i ni geisio darparu mentrau cyflogaeth a hyfforddiant 
pellach ar y safle ar gyfer y sir.鈥 
Cysylltwch 芒 Nia Parry yn Cymunedau yn Gyntaf i drafod y cyfleoedd sy鈥檔 ymwneud 
芒 Budd Cymunedol 01244 846090.
Or chwith: Mick Cunningham - Rheolwr safle Wates,  Sharon Jones - Cymunedau yn 
Gyntaf Sir y Fflint, Joanne Jamieson - Rheolwr Gyfarwyddwr Wates , David Jones, 
Clare Budden -Prif Swyddog Cymuned a Menter, Cyngh. Derek Butler - Aelod 
Cabinet dros Ddatblygu Economaidd