Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yn talu teyrnged i gampau鈥檙 Nomadiaid yng Nghwpan Europa
Published: 31/08/2016
Ym mis Tachwedd 2015, roedd gap Nomads Cei Connah ar waelod Uwchgynghrair Cymru
Dafabet ac roedd yn ymddangos bod posibilrwydd realistig iawn y byddent yn
disgyn or gynghrair. Ar y pwynt hwn, penododd y Clwb cyn-gapten Manchester
City, Andy Morrison, yn Reolwr y T卯m Cyntaf a gwelwyd newid syfrdanol yn eu
ffawd. Cododd y Clwb eu safon yn gyflym iawn, gan ddringor tabl yn dilyn
cyfres o ganlyniadau da cyn curo TNS a oedd yn ddiguro cyn hynny i sicrhau lle
yn y Chwech uchaf ar gyfer ail hanner y tymor.
Aeth y Nomadiaid yn eu blaen i orffen yn bedwerydd yn y gynghrair, y safle
uchaf iddynt orffen ynddo erioed, ac aethant drwodd ir gemau ail gyfle ar
gyfer Cynghrair Europa UEFA, ller oedd buddugoliaethau yn erbyn Caerfyrddin
a鈥檙 gelynion lleol Airbus yn ddigon i sicrhau antur Ewropeaidd gyntaf erioed y
Clwb.
Cafodd enw鈥檙 Nomadiaid ei dynnu o鈥檙 het yn erbyn gwrthwynebiad llawn amser, sef
Stabaek o Norwy, ac ar ddiwedd mis Mehefin gwnaethant lwyddo i ddal y t卯m o鈥檙
Tippeligaen i g锚m gyfartal 0-0 yn y cymal cyntaf yn y Rhyl. Wythnos yn
ddiweddarach, gwelodd y Clwb y canlyniad mwyaf yn ei 70 mlynedd o hanes pan
roddodd g么l Callum Morris yn y 15fed munud fuddugoliaeth hanesyddol o 1-0 i鈥檙
Nomadiaid yn Fredrikstad, Norwy.
Y canlyniad hwn oedd y tro cyntaf i d卯m o Gymru beidio ag ildio goliau dros
ddau gymal mewn cystadleuaeth Ewropeaidd mewn dros 200 o gemau.
O ganlyniad, aeth y Nomadiaid yn eu blaen i wynebu鈥檙 t卯m o Serbia, FK Vojvodina
- tasg anodd o ystyried eu bod wedi trechu鈥檙 t卯m o Serie A yr Eidal, Sampdoria,
6-0 dros ddau gymal y tymor blaenorol. Brwydrodd y Nomadiaid yn wrol yn Serbia
a cholli o ddim ond 1-0 i g么l hwyr yn dilyn gwyriad. Roedd y Serbiaid yn ormod
i鈥檙 Nomadiaid ymdopi 芒 nhw dros y ddau gymal, gyda鈥檙 Nomadiaid yn colli yn y
pen draw o 3-1 ar gyfanswm goliau, ond y canlyniad ar perfformiad dros y
pedair g锚m oedd y llwyddiant mwyaf yn hanes Nomadiaid Cei Connah.
Dywedodd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Peter Curtis:
鈥淎r ran Cyngor Sir y Fflint, hoffwn longyfarch gap Nomadiaid Cei Connah ar eu
llwyddiant ffantastig. Dros y ddwy g锚m, roeddent yn hysbyseb gwych i Uwch
Gynghrair Cymru Dafabet ac mae Sir y Fflint a Chymru yn falch ohonynt.
鈥漎n dilyn llwyddiant diweddar t卯m cenedlaethol Cymru ym mhencampwriaeth Ewro
2016, mae llwyddiant gap Nomadiaid Cei Connah yn adlewyrchu llwyddiant y gwaith
o ddatblygu p锚l-droed ar lawr gwlad yng Nghymru a bydded i hynny barhau.