Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Canlyniadau TGAU Sir y Fflint 2016
Published: 25/08/2016
Cyfran y graddau yn yr amrediad A* i C yn 2016 yw 66.6% ar draws Cymru, yr un
fath ag yn 2015. Maer graddau llwyddo uwch (A*- C) hyn ar draws Sir y Fflint
yn sefyll ar 67.2% or holl arholiadau a gymerwyd gyda Bwrdd Cymreig.
Mae hyn yn 0.2% yn uwch na ffigur Sir y Fflint ar gyfer yr holl arholiadau ar
yr un cyfnod y llynedd. Mae cyfran y graddau A* ac A a gyflawnwyd gan fyfyrwyr
Sir y Fflint gyda鈥檙 Bwrdd Cymreig yn 2016 yn 18.9%, sydd 0.5% yn uwch na鈥檙 un
cyfnod yn 2015.
Mae鈥檙 cyfanswm o bynciau a gofrestrwyd gyda鈥檙 Bwrdd Cymreig gan fyfyrwyr Sir y
Fflint ar gyfer arholiadau鈥檙 haf 1.1% yn is na鈥檙 llynedd.
Dywedodd Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Chris Bithell:
鈥淎r ran Cyngor Sir y Fflint, fe hoffwn longyfarch ein holl ddisgyblion ar eu
canlyniadau TGAU.
Unwaith eto mae ein disgyblion wedi perfformion dda a chyflawni safonau uchel
yn eu harholiadau allanol.
Hoffwn ddiolch i鈥檙 holl staff yn yr ysgolion sydd wedi gweithio mor galed i
alluogi i鈥檙 myfyrwyr lwyddo ac i鈥檙 holl rieni a gofalwyr sydd wedi darparu
cefnogaeth ac anogaeth iw plant.
Rwy鈥檔 gobeithio y bydd y canlyniadau hyn yn galluogi鈥檙 myfyrwyr i symud ymlaen
i gyrsiau addysg 么l-16 neu ddod o hyd i waith addas. Rydym yn dymuno pob
llwyddiant iddynt, pa bynnag gwrs y byddant yn ddewis ei astudio.鈥
Ychwanegodd y Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, Ian Budd:
鈥淢ae鈥檙 Cyngor yn falch o longyfarch y myfyrwyr, athrawon, rhieni a gofalwyr
Sir y Fflint am y canlyniadau TGAU da hyn. Maent yn ganlyniad i ymrwymiad a
gwaith caled ein myfyrwyr. Gall ein pobl ifanc symud ymlaen 芒 hyder i Addysg
Bellach yn Sir y Fflint. Maer Cyngor yn llongyfarch ein holl fyfyrwyr ar eu
llwyddiant.