Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Safle cyn Lyfrgell Saltney
Published: 25/08/2016
Dechreuodd gwaith heddiw (24 Awst) ar welliannau i safle cyn Lyfrgell Saltney
yn Salisbury Ave yn Saltney i helpu i ymateb i bryderon a fynegwyd gan y
gymuned leol a鈥檙 ysgol am barcio ar y stryd a diogelwch y ffyrdd.
Roedd y safle yn arfer cynnwys y Llyfrgell a maes parcio bach, mae bellach wedi
ei lleoli yn y Ganolfan Ieuenctid a Chymunedol. Bydd y gofod sydd ar 么l yn
cael ei droi鈥檔 faes parcio i rieni sy鈥檔 gollwng a chasglu plant o鈥檙 ysgolion
cynradd lleol ac i breswylwyr lleol a dylai hyn leddfur pwysau ar y rhwydwaith
ffyrdd yn yr ardal. Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau cyn dechrau鈥檙 tymor ysgol
newydd.
Dywedodd Y Cyng. Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd,
鈥淒wi鈥檔 hynod o falch fod Cyngor Sir y Fflint wedi gallu gwneud defnydd da o鈥檙
ardal yma er mwyn lleddfu problemau parcio a gwella diogelwch ar y ffyrdd o
fewn ac o gwmpas Salisbury Ave, yn arbennig ar ddechrau a diwedd y diwrnod
ysgol.鈥
鈥淒wi鈥檔 siwr y bydd y trefniant hwn yn dod 芒 rhyddhad i drigolion lleol ac yn
darparu ateb ymarferol a chynaliadwy i broblem sydd o bryder i鈥檙 gymuned ac
ysgolion lleol.鈥
Nodyn i olygyddion
Yn y llun sydd ynghlwm mae (chwith ir dde) Adam Foley, Swyddog Technegol
Gwasanaethau Stryd ac Adrian Parry o鈥檙 contractwyr A Parry construction