天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwobrau Balchder Sir y Fflint 2016

Published: 24/08/2016

Cafodd cyflawniadaur plant mewn gofal maeth yn Sir y Fflint eu dathlu mewn seremoni wobrwyo yng Nghlwb Rygbi Yr Wyddgrug fis diwethaf. Roedd dros 230 o westeion, gan gynnwys plant syn derbyn gofal a phobl ifanc sydd wedi gadael gofal, yn bresennol yn y seremoni wobrwyo ffurfiol a鈥檙 diwrnod llawn hwyl ir teulu a gynhaliwyd gan Gyngor Sir y Fflint. Agorodd yr Arglwydd Barry Jones drafodion ynghyd 芒 Chadeirydd Cyngor Sir y Fflint, Peter Curtis. Cyflwynwyd gwobrau gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, y Cynghorydd Christine Jones, Prif Swyddog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Neil Ayling, yr Arglwydd a鈥檙 Arglwyddes Jones ar Cynghorydd Curtis. Dywedodd y Cynghorydd Jones: 鈥淩oedd yn ddiwrnod gwych, a fwynhawyd gan bawb oedd yn bresennol. Roedd y llawenydd ar wynebaur derbynwyr yn amlwg i bawb ei weld, fel yr oedd balchder eu gofalwyr au gwesteion. Mae pawb a gafodd wobr yn ei haeddu鈥檔 llwyr. Maer gwobrau hyn wir yn dangos pa mor dda ywr gofal ar fagwraeth a gaiff y plant hyn gan y teuluoedd syn gyfrifol amdanynt. Rwyf wrth fy modd gyda鈥檙 digwyddiad hwn 鈥 gobeithio iddo barhau am yn hir. Da iawn i bawb sy鈥檔 rhan ohono.鈥 Roedd y gwobrau ffurfiol yn cynnwys perfformiadau cerddorol gan y plant eu hunain, a gweithgareddau hwyliog i roi diwrnod pleserus i鈥檙 plant ei ddathlu a鈥檌 gofio. Cyflwynwyd gwobrau i blant am gyflawni presenoldeb o 100% yn yr ysgol, am fod yn gapten t卯m chwaraeon, cefnogi achosion elusennol, myfyriwr cyfraith y flwyddyn ac am berfformio yn yr Eisteddfod. Roedd y diwrnod hefyd yn dathlu鈥檙 plant hynny sydd bellach wedi tyfu i fyny ac sy鈥檔 byw鈥檔 llwyddiannus yn eu fflat eu hunain, gyda swydd a鈥檜 teulu eu hunain, gyda Gwobrau Cymeradwyaeth Arbennig ar gyfer y rhai syn Gadael Gofal, ac un unigolyn ifanc eithriadol yn derbyn y Wobr Phoenix i fywn annibynnol yn llwyddiannus. Helpodd busnesau lleol i wneud y digwyddiad yn llwyddiant drwy gynnig eu cefnogaeth ariannol a darparu anrhegion ar gyfer raffl. Hoffai Cyngor Sir y Fflint ddiolch i: Dave Cottle Engineering, MPH Construction, Mainetti, Clwb P锚l- droed Airbus, Clwb Rygbi Yr Wyddgrug, Westbridge Furniture, TATA Steel, Dee Gas, Vitesse Motor Company. Synthite, P&A, Bluefin, Rubicon Garden Rooms, Future Studios, cynghorwyr lleol a rhoddwyr unigol am eu cyfraniadau hael. I gael gwybod mwy am gefnogir digwyddiad hwn y flwyddyn nesaf neu i ddod yn ofalwr maeth, cysylltwch 芒 Chyngor Sir y Fflint ar 01352 702190 neu e-bostiwch prideofflintshire@flintshire.gov.uk.