Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Digwyddiad Drysau Agored - tu ôl ir llenni yn yr Hen Reithordy a llwybrau Pentref Penarlâg
Published: 16/08/2016
Ddydd Sadwrn 10 Medi mae Archifdy Sir y Fflint, yn seiliedig yn yr Hen
Reithordy, Penarl芒g, yn cymryd rhan yn 鈥楧rysau Agored鈥, digwyddiad Cymru gyfan
a drefnir gan Cadw. Mae Drysau Agored yn cynnig y cyfle i bobl leol ac ymwelwyr
fel ei gilydd archwilio trysorau cudd o ddiwylliant a hanes Cymru.
Mae鈥檙 Hen Reithordy yn adeilad or 18fed ganrif yn ei diroedd ei hun, a oedd yn
gartref i Reithoriaid Penarl芒g ers canrifoedd. Am y 60 mlynedd diwethaf, mae
wedi bod yn gartref i Archifdy Sir y Fflint, syn ceisio diogelu treftadaeth
archifol unigryw y sir a sicrhau ei bod ar gael ir cyhoedd.
Bydd y digwyddiad Drysau Agored yn cynnwys arddangosfa am adeiladau hanesyddol
ym Mhenarl芒g (gan gynnwys yr Hen Reithordy); teithiau 鈥榯u 么l ir llenni鈥 yr Hen
Reithordy i weld lle mae archifaur Sir yn cael eu cadw; ymweliadau 芒r stiwdio
Cadwraeth i weld sut maer archifau unigryw ac na ellir eu disodli yn cael eu
cadw; a theithiau cerdded o amgylch pentref Penarl芒g yn dilyn llwybr adeiladau
hanesyddol, dan arweiniad aelod gwybodus o staff.
Dywedodd y Cyng. Chris Bithell, Aelod Cabinet dros Addysg ac Ieuenctid;
鈥淢ae hwn yn gyfle gwych ir cyhoedd gael gwybod mwy am y prosesau, sgiliau ac
arbenigedd sydd eu hangen i gadw archifau鈥檙 Sir ac i gael gwybod mwy am y
drysor pensaern茂ol sef yr adeilad a鈥檙 gosodiad lle caiff y gwaith pwysig hwn ei
wneud.鈥
Teithiau Llwybr Pentref - 10.00am a 1.00pm - rhaid archebu
Y tu 么l ir llenni a theithiau cadwraeth - 10.30am, 11.45am ac 1.00pm 鈥 rhaid
archebu
I archebu a rhagor o wybodaeth, cysylltwch 芒 01244 532364; e-bost:
archives@flintshire.gov.uk neu Yr Hen Reithordy,
L么n y Rheithordy, Penarl芒g, Sir y Fflint, CH5 3NR