天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Caffi yn dathlu ei flwyddyn gyntaf

Published: 08/08/2016

Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn trefnu dathliadau i nodi blwyddyn ers agoriad y Caffi Cofio yn Nhreffynnon. Flwyddyn yn 么l, roedd y caffi yn Siop Artisan Treffynnon yn un or unig dri o鈥檌 fath yn y sir. Bellach mae gan Sir y Fflint saith caffi a bwriedir agor mwy yn y dyfodol. Mae Caffis Cofio yn helpu pobl sy鈥檔 colli eu cof (yn dilyn diagnosis neu beidio) a鈥檜 gofalwyr. Mae caffi cofio鈥檔 rhywle i gael cymorth a chyngor am ddim a chymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau a drefnwyd a chael sgyrsiau gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Cafwyd dathliadau ar thema glan y m么r a mwynhaodd bawb fwffe a gemau parti, gan gynnwys bingo cerddorol. Yn y parti roedd Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Christine Jones, Maer a Maeres Treffynnon, y Cynghorydd J M Johnson a Mrs Johnson gyda mam y Cynghorydd Johnson, Gladys, a chwaraeodd yr organ fel bo pawb yn cael ymuno yn y caneuon glan m么r. Dywedodd y Cynghorydd Johnson: 鈥淢ae鈥檙 caffi hwn yn hanfodol bwysig i鈥檔 hymdrechion i godi ymwybyddiaeth o ddementia ac rwy鈥檔 falch o weld cynifer o bobl yn mynychu a mwynhau鈥檙 sesiwn. Rwy鈥檔 falch o fod yn Gyfaill Dementia fy hun a byddwn yn argymell unrhyw un i geisio cael gwell dealltwriaeth o ddementia.鈥� Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones: Mae caffis cofio yn syniad gwych ac yn ffordd dda o gael pobl syn byw 芒 dementia au gofalwyr at ei gilydd yn gymdeithasol yn ogystal 芒 darparu help a chyngor proffesiynol. Maen fan cyfarfod anffurfiol ac nid oes angen atgyfeiriad gan mai grwp galw heibio ydyw. Mae hwn yn fater syn cael lle blaenllaw yn ein polis茂au gofal cymdeithasol i oedolion a byddwn yn anelu at agor mwy o Gaffis Dementia ym mhob cwr or Sir. Mae鈥檙 Caffi ar agor bob yn ail ddydd Gwener o 1.30 鈥� 3.30pm yn Siop Artisan, 49-51 Heol Fawr, Treffynnon. Mae鈥檙 trefnwyr yn dymuno diolch i Tesco am ddarparu鈥檙 lluniaeth. Am fwy o wybodaeth am hyn a chaffis cofio eraill yn Sir y Fflint, cysylltwch 芒 Luke Pickering-Jones ar 01352 702655 neu Luke.Pickering-jones@flintshire.gov.uk. Y Cynghorydd Jones, y Cynghorydd Johnson a Lynda Carter o Tesco ynghyd a Helen Hughes a Sian Lewis ac aelodau o D卯m Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint yn mwynhau dathlu gyda defnyddwyr y gwasanaeth a鈥檜 gofalwyr.