Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Digwyddiad dathlu wedi’i drefnu ar gyfer 10fed pen-blwydd Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy
  		Published: 05/08/2016
I ddathlu 10fed pen-blwydd Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy, bydd digwyddiad glanhau 
blynyddol ar hyd glannau’r Afon Dyfrdwy, digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal 
i ddathlu popeth syn gysylltiedig âr afon ai chymunedau, yn y gorffennol ar 
presennol.
Bydd Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy GWIRIONEDDOL yn cael ei gynnal ym Mharc Cae Edgar, 
Handbridge, Caer ddydd Sadwrn, 17 Medi o 11am tan 3pm.
Mae’r digwyddiad i’r teulu hwn wedi ei drefnu drwy gydweithio ar draws y ffin 
rhwng Cymru a Lloegr er budd yr holl gymunedau lleol sy’n byw ger yr afon.  
Bydd yn gweld sefydliadau a grwpiau ledled dod Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd 
Cymru yn dod at ei gilydd i ddathlur achlysur gyda gweithgareddau ac 
arddangosiadau i bawb eu mwynhau.
Maer digwyddiad glanhau blynyddol Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy, a drefnwyd gan 
Gyngor Caer a Gorllewin Swydd Gaer, Cyngor Sir y Fflint, Asiantaeth yr 
Amgylchedd a Chyfoeth Naturiol Cymru yn addo bod yn fwy ac yn well nag erioed 
ar gyfer ei ben-blwydd yn 10 oed.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae Cyngor 
Sir y Fflint yn falch o fod yn rhan o ddathlu degfed pen-blwydd Diwrnod Mawr y 
Ddyfrdwy.
 “Ers ei sefydlu yn 2007, mae mwy a mwy o fusnesau, grwpiau cymunedol a 
gwirfoddolwyr yn cymryd rhan a hoffwn gydnabod eu cymorth amhrisiadwy wrth 
helpu i gadw ein harfordir yn lân ar gyfer ymwelwyr a bywyd gwyllt.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Samantha Dixon: 
“Rwyf wedi bod yn gysylltiedig â Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy ers rhai blynyddoedd 
bellach ac wrth i nifer y gwirfoddolwyr a phartneriaid dyfu, mae wedi datblygu 
o gasglu sbwriel ar hyd glannau’r afon Dyfrdwy i gynnwys plannu bylbiau, 
paentio meinciau a chynnal a chadw perthi, llwybrau a choed.
 “Maen briodol ar gyfer y 10fed pen-blwydd ein bod yn cynnal digwyddiad dathlu 
i ddod ag unigolion, sefydliadau a busnesau sydd â chysylltiad ân afon wych 
ynghyd. 
 “Rwyn gobeithio y bydd cynifer o bobl â phosibl yn gallu dod draw i ymuno âr 
dathliadau.
Dywedodd Carys Bebb, Swyddog yr Amgylchedd ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru: 
“Maer Afon Dyfrdwy yn adnodd mor bwysig i ni yng Ngogledd Cymru ac rydym yn 
gweithion galed iw diogelu.
 “Maen darparu dwr yfed i filiynau o bobl, yn gynefin gwych ar gyfer bywyd 
gwyllt gyda eogiaid syn mudo yma i silio ac yn cefnogi diwydiant ar draws yr 
ardal.
 “Mae hefyd yn rhywle i bobl fynd a mwynhau ein hamgylchedd naturiol, felly mae 
Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy yn bwysig iawn er mwyn ei chadwn lân a heb sbwriel.
Dywedodd Jo Holden, Cydlynydd Dalgylch Asiantaeth yr Amgylchedd: 
“Maen bwysig iawn i bobl allu mwynhau’r awyr agored sydd ganddynt fynediad 
iddo. Dyna pam y llynedd gwnaethom greu llwybr troed newydd i drigolion o 
Blacon i gael mynediad i Barc Manwerthu Greyhound. Eleni rydym yn mynd i fod yn 
gwneud rhywfaint o waith cynnal a chadw cyffredinol, cael gwared ar sbwriel or 
ardal a’i gwneud hyd yn oed yn well!
Casglwyd mwy na 157 o fagiau o sbwriel yn ogystal â 18 o eitemau mawr y llynedd 
- gan gynnwys trolïau siopa, beiciau, cadeiriau plastig, seston toiled a bin 
compostio – yn ystod y digwyddiad y llynedd yng Ngorllewin Swydd Gaer.
Er bod parcio yn gyfyngedig yn Handbridge, mae Parc Cae Edgar ond yn daith 
gerdded fer o ganol y ddinas.  Mae gwybodaeth am barcio, amserlenni bysiau a 
gwasanaeth parcio a theithio traws-dinas newydd ar gael ar wefan y Gyngor Caer 
a Gorllewin Swydd Gaer: www.cheshirewestandchester.gov.uk.
Nodiadau i olygyddion:
Mae Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy wedi bod yn ddigwyddiad blynyddol ers 2007.  
Dechreuodd y syniad gyntaf ar draeth Talacre pan benderfynodd Gwasanaeth Cefn 
Gwlad Sir y Fflint a’r partneriaid BHP Billiton, Presthaven Sands, Clwb Traeth 
Talacre, y gymuned leol a Chyfoeth Naturiol Cymru gynnal arolwg or traeth i 
helpu i dynnu sylw at sbwriel morol ar niwed y gall ei achosi.  Ers hynny, mae 
Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref 
Sirol Wrecsam, Cyngor Bwrdeistref Cilgwri a Pharc Cenedlaethol Eryri, yn 
ogystal â llawer o wirfoddolwyr a busnesau lleol eraill - gan gynnwys Airbus, 
Kingspan a Kimberley Clark - hefyd wedi cymryd rhan ac maer digwyddiad wedi 
mynd o nerth i nerth.