Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yn croesawu ymwelwyr o Japan
Published: 08/08/2016
Yn ddiweddar, cynhaliodd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Peter
Curtis, Dderbyniad Dinesig ffurfiol i groesawu chwech o fyfyrwyr o Japan ar
daith gyfnewid i Sir y Fflint.
Roedd 38 o bobl yn bresennol yn y derbyniad, gan gynnwys cyfieithydd ar y pryd,
Mr Koki Kinouchi, i helpur myfyrwyr Japaneaidd i fwynhau eu noson.
Mae鈥檙 rhaglen hon yn cynnig ystod eang o weithgareddau addysgol a diwylliannol
i鈥檙 gwesteion o Japan gan gynnwys ymweliadau 芒 Llundain, Lerpwl, Windsor, Caer,
Castell y Waun, Bae Colwyn, Castell Conwy, Helygain a Chaerwys.
Ar 么l i鈥檙 Japaneaid fod yng Nghymru, bydd ein myfyrwyr o Sir y Fflint yn ymweld
芒 Rhaglawiaeth Miyagi ble mae鈥檙 daith gyfnewid wedi bod yn digwydd ers 1991.
Y myfyrwyr Japaneaidd yw: Ryosuke Kimura, Kota Sakuranaka, Moeko Sato, Nodoka
Sasajima, Rena Omiya a Ryo Suzuki.
Y myfyrwyr o Sir y Fflint a fydd yn teithio i Japan yw: Kerina Perhat, Cameron
Gemmill, Olivia Andringa, Ruth Stubbs, Lola Seddon a Megan Roberts.
Dywedodd y Cynghorydd Curtis:
鈥淩wyf wrth fy modd yn cael croesawu ein hymwelwyr Japaneaidd a gobeithiaf y
byddant yn cael profiad gwerthfawr a llawn mwynhad. Mae鈥檙 daith gyfnewid hon
yn gyfle hyfryd ir ddwy wlad ddysgu am ffyrdd o fyw a diwylliannau gwahanol.
Aros gyda theuluoedd yw鈥檙 ffordd orau o ddysgu drwy ymdrwytho yn yr iaith a鈥檙
diwylliant mewn amgylchedd gofalgar gyda chyd-fyfyrwyr am gymorth.鈥
I fod yn gymwys i wneud cais am le ar raglen gyfnewid y flwyddyn nesaf, mae鈥檔
rhaid i fyfyrwyr fod rhwng 16 a 18 oed ar 1 Medi 2016, mewn addysg llawn amser
yn Sir y Fflint neu mewn addysg llawn amser ac yn byw yn Sir y Fflint.
I roi syniad i鈥檙 myfyrwyr au teuluoedd o beth yw鈥檙 daith gyfnewid, bydd noson
gyflwyno yn cael ei chynnal nos Lun 1 Tachwedd, am 6.30pm yn Siambr y Cyngor,
Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug. Bydd myfyrwyr a fu鈥檔 cymryd rhan yn y rhaglen
gyfnewid eleni yn rhoi cyflwyniad am eu profiad ar hyn y maent wedi鈥檌 elwa
ohono. Bydd rhieni鈥檙 myfyrwyr hefyd yn rhoi cipolwg ou safbwynt nhw.
Bydd ffurflenni cais ar gyfer y rhaglen gyfnewid ar gael ar y noson, neu drwy
gysylltu 芒 Karen Jones 07759295984 neu drwy anfon e-bost at
karen.jones@flintshire.gov.uk.
Ariennir y daith gyfnewid gan Ymddiriedolaeth Gyfnewid Ieuenctid Japan Optec
Sir y Fflint yn ogystal 芒 grantiau a rhoddion, gan gynnwys rhoddion gan Toyota
UK yng Nglannau Dyfrdwy a Sefydliad Sasakawa Prydain Fawr sy鈥檔 cefnogi
rhaglenni addysgol Japaneaidd.
Derbyniad Japaneaidd
Yn y llun gwelir myfyrwyr o Japan a Sir y Fflint gyda rhieni, gwarcheidwaid,
trefnwyr, Ymddiriedolwyr a Chadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cyngh. Peter
Curtis a鈥檌 gymar Mrs Jenny Curtis.