Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Busnesau lleol yn elwa o grantiau
  		Published: 01/08/2016
Mae Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint wedi derbyn grant o 拢1,000 gan Fenter Ddur 
y DU fydd yn cael ei ddefnyddio i wella eu mentrau a chyfleoedd 
entrepreneuriaeth. 
Mae鈥檙 arian wedi鈥檌 rannu鈥檔 ddau grant o 拢500 a gwahoddwyd aelodau Clwb Menter 
Sir y Fflint i gyflwyno cais drwy ddangos sut y gallai鈥檙 arian wneud 
gwahaniaeth gwirioneddol i sefydlu neu ddatblygu eu busnes. 
Yna gwahoddwyd y busnesau ar y rhestr fer i gyflwyno eu hachos busnes i banel o 
feirniaid. 
Daeth y broses i ben gyda Seremoni Wobrwyo a drefnwyd gan Gymunedau yn Gyntaf 
drwy Glwb Menter Sir y Fflint.  
Yr enillwyr oedd Bethan Maria Williams o ABC 鈥 Amser Babi Cymraeg a Paula 
Lorraine Jones o Simply Magic Films. 
Mae ABC yn cynnig cymorth a chefnogaeth i fagu plant yn ddwyieithog drwy 
gyfrwng y Gymraeg a鈥檙 Saesneg.  Maent yn cynnig ystod eang o weithgareddau gan 
gynnwys tylino babanod, ioga i fabanod, sblasio ac odli ac amser stori ac 
odli.  Casglwyd y wobr gan wr  Bethan, Gareth Williams, oherwydd ymrwymiadau 
gwaith.  Byddant yn buddsoddi鈥檙 arian i brynu gliniadur ar gyfer y busnes ac 
offer marchnata, gan gynnwys stondin godi i godi ymwybyddiaeth o鈥檙 busnes 
newydd ac arloesol hwn. 
Mae Simply Magic Films yn gwmni ffilmiau lleol syn cael ei sefydlu gan 
Lorraine fydd yn cynnig pob agwedd o gynhyrchu ffilmiau a ffotograffiaeth 
ynghyd 芒 chynnig dosbarthiadau.  Bydd yr arian yn cynorthwyo i ddarparu offer, 
gan gynnwys pecyn golygu allweddol, y mae Lorraine ei angen i ddatblygu ei 
busnes ymhellach. 
Derbyniodd yr enillwyr eu sieciau gan Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y 
Cynghorydd Aaron Shotton, yn y seremoni yng Nghanolfan Fenter Glannau Dyfrdwy 
yn Shotton. 
Mae Clwb Menter Sir y Fflint sydd 芒鈥檜 haelodau i gyd yn entrepreneuriaid, yn 
cynnig gwybodaeth am ddim a gweithdai gyda siaradwyr ysbrydoledig o wahanol 
sefydliadau a sefydliad addysg uwch ac addysg bellach.  Maer clwb yn rhad ac 
am ddim i鈥檞 fynychu ac yn cyfarfod bob pythefnos ar Gampws Cymunedol John 
Summers, Chester Road East, Queensferry, Glannau Dyfrdwy CH5 1SE.  Cynhelir y 
cyfarfodydd bob yn ail ddydd Gwener o 10.30am tan 12:30pm. 
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
 鈥淢ae hwn yn gyfle i gefnogi Cymunedau yn Gyntaf a鈥檙 rhaglen Fenter, y busnesau 
a鈥檙 unigolion sy鈥檔 ei gefnogi, a鈥檙 rhai sydd wedi derbyn yr her o sefydlu 
busnes.  Mae鈥檙 clwb wedi cael llwyddiant mawr ers sawl blwyddyn ac wedi 
datblygu enw da ac wedi cyflawni llawer.鈥 
Roedd Prif Swyddog Cymuned a Menter Cyngor Sir y Fflint, Clare Budden, Askar 
Sheibani Cadeirydd Rhwydwaith Entrepreneuriaid Busnes Sir y Fflint, Huw 
Maguire, Pennaeth Cymunedau yn Gyntaf a Glyn Thomas yn cynrychioli Menter Ddur 
y DU, a sefydlwyd yn yr 1970au i gynorthwyo busnesau mewn ardaloedd lle bo 
dirywiad y diwydiant dur wedi effeithio arnynt, oll yn bresennol. 
Dywedodd Glyn Thomas: 
 鈥淏usnesau bach yw enaid yr economi, ond mae sefydlu ac ehangu busnes yn her 
fawr.  Mae Menter Ddur y DU yn falch o gynorthwyo a bydd yr arian yn hwb i 
gynorthwyor entrepreneuriaid newydd hyn. 
Dywedodd Huw Maguire: 鈥淢ae鈥檙 fenter hon yn hwb i entrepreneuriaid ifanc sydd 
eisiau sefydlu neu ehangu eu busnes eu hunain ond sydd angen ychydig o 
gefnogaeth ychwanegol.鈥 
I gael rhagor o wybodaeth am y Clwb Menter, cysylltwch 芒 Swyddog Arweiniol 
Menter Cymunedau yn Gyntaf, Beverly Moseley ar 01244 846090 neu anfonwch e-bost 
at beverly.moseley@flintshire.gov.uk.
Or chwith:  Clare Budden, Paula Lorraine Jones, Glyn Thomas, Cyngh. Aaron 
Shotton, Huw Maguire, Gareth Williams ac Askar Sheibani