Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Tref yn cael cymorth ar gyfer gweddnewid
  		Published: 20/07/2016
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cyflwyno cynllun grantiau gwella siopau ym Mwcle y 
mis hwn ac yn gofyn i fusnesau sydd 芒 diddordeb i gysylltu 芒 ni.
Y meini prawf ar gyfer y grant fydd:
路 cyllid cyfalaf hyd at 拢10,000 yr eiddo
路 mae angen iddo fod o fudd i edrychiad y dref, neu ailddefnyddio eiddo gwag;
路 mae angen iddo fod yn ardal manwerthu craidd canol tref Bwcle;
路 rhaid cael arian cyfatebol 鈥 byddwn yn darparu 60% tuag at gost gwaith mewnol 
ac 80% ar gyfer gwaith allanol;
路 ni fydd yn cefnogi gwaith cynnal a chadw arferol na phrynu offer.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros 
Ddatblygu Economaidd:
鈥淢ae hwn yn gynllun gwych i helpu perchnogion busnesau i uwchraddio eu 
hadeiladau - y tu mewn ar tu allan, a helpu i anadlu bywyd newydd i ganol y 
dref.  Byddwn yn annog perchnogion adeiladau neu denantiaid i gysylltu 芒 ni i 
weld sut y gallant wneud cais.  Mae 拢85,000 ar gael i gyd gan y Cyngor, felly 
bydd ceisiadau yn cael eu trin ar sail y cyntaf ir felin.
鈥淏ydd y cynllun yn canolbwyntio ar eiddo Stryd Fawr i wella edrychiad yr unedau 
(gwaith allanol) ac i fynd ir afael ag eiddo gwag (gwaith mewnol ac allanol).鈥
Bydd rhagor o fanylion, cymorth i helpu ymgeiswyr trwyr broses a phecyn cais 
llawn ar gael yn fuan ond os hoffech fynegi diddordeb yn anffurfiol neu os 
hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch 芒 01352 701427 neu 
andrew.redfern@flintshire.gov.uk.