Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Rhaglen Gyfnewid Ieuenctid Siapan Sir y Fflint
  		Published: 19/07/2016
Mae Rhaglen Cyfnewid Ieuenctid Siapan eleni wedi cael ei gefnogi gan Toyota UK 
unwaith eto.
Bob blwyddyn, mae myfyrwyr lleol yn cael cyfle i ddysgu am ddiwylliant Siapan, 
diolch ir rhaglen gyfnewid ieuenctid syn talu am chwe lleoliad myfyrwyr.  
Bydd teuluoedd y myfyrwyr llwyddiannus yn rhoi llety i鈥檞 hymwelwyr o Siapan am 
bythefnos.
Yna caiff myfyrwyr Sir y Fflint gyfle i deithio i Siapan ac aros gydau 
myfyrwyr Siapaneaidd partner a鈥檜 teuluoedd. 
Maer rhaglen gyfnewid wedi bod yn rhedeg ers 1991, diolch i gronfa 
ymddiriedolaeth a sefydlwyd gan gwmni syn seiliedig yn Buckley, Optec Ltd. 
Ariennir y rhaglen hefyd gan grantiau a rhoddion, gan gynnwys rhoddion gan 
Toyota UK sydd wedi鈥檜 lleoli yng Nglannau Dyfrdwy a The Great Britain Sasakawa 
Foundation, syn cefnogi rhaglenni addysgol Siapaneaidd.
Cyflwynodd Martin Fry o Adran Materion Cyffredinol Toyota o鈥檙 Ffatri ar Lannau 
Dyfrdwy eu siec i Karen Jones o Gyngor Sir y Fflint.
Roedd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint Aaron Shotton ar Prif Swyddog ac 
Ymddiriedolwr Ian Budd hefyd yn bresennol i ddiolch i Martin am y rhodd.
I fod yn gymwys i wneud cais am le ar raglen gyfnewid y flwyddyn nesaf, mae鈥檔 
rhaid i fyfyrwyr fod rhwng 16 a 18 oed ar 1 Medi 2016, mewn addysg llawn amser 
yn Sir y Fflint neu mewn addysg llawn amser ac yn byw yn Sir y Fflint.
I gael syniad o鈥檙 hyn maen ei olygu ir myfyrwyr au teuluoedd, bydd noson 
wobrwyo yn cael ei chynnal nos Lun 1 Tachwedd, am 6.30pm yn Siambr y Cyngor, 
Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug. Bydd myfyrwyr a fu鈥檔 cymryd rhan yn y rhaglen 
gyfnewid eleni yn rhoi cyflwyniad am eu profiad ar manteision y maent wedii 
gael ohono. Bydd rhieni鈥檙 myfyrwyr hefyd yn rhoi cipolwg ou safbwynt. Bydd 
ceisiadau ar gyfer y rhaglen gyfnewid ar gael ar y noson, neu drwy gysylltu 芒 
Karen Jones 07759295984 neu drwy anfon e-bost at karenjones@flintshire.gov.uk.
O鈥檙 chwith: Y Cynghorydd Shotton, Karen Jones, Martin Fry ac Ian Budd