Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cymunedau鈥檔 Gyntaf Sir y Fflint yn cefnogi FareShare 
  		Published: 18/07/2016
Mae Cymunedau鈥檔 Gyntaf Sir y Fflint wedi ymuno鈥檔 ddiweddar 芒 phrosiect 
FoodCloud FareShare yng Ngogledd Cymru. 
Nod y cynllun yw ailddosbarthu bwyd sy鈥檔 addas i鈥檞 fwyta o siopau yn 
uniongyrchol i elusennau, sefydliadau dielw a grwpiau cymunedol. Mae FareShare, 
sy鈥檔 elusen genedlaethol, ar hyn o bryd yn lansio鈥檙 cynllun hwn yn siopau Tesco 
Extra a Tesco Superstore ar draws Gogledd Cymru. 
Bu Vera Davey, Swyddog Arweiniol Iechyd Cymunedau鈥檔 Gyntaf, yn helpu dau grwp 
gwirfoddol lleol sydd wedi鈥檜 lleoli ym Maes Glas i gofrestru ar gyfer y cynllun 
yn ddiweddar. Mae鈥檙 grwpiau鈥檔 darparu prydau poeth a lluniaeth i鈥檞 cymunedau am 
bris fforddiadwy.
Daeth Ashley Cooper, cydlynydd prosiect Fareshare, i ymweld 芒 gwirfoddolwyr o 
Glwb Cinio Maes Glas i esbonio鈥檙 broses ddosbarthu ac i wneud yn siwr bod y 
grwp yn bodloni鈥檙 gofynion angenrheidiol. Roedd hyn yn cynnwys cael cegin 
ddigonol a chyfleusterau rhewgell, a gwirfoddolwyr gyda thystysgrif Hylendid 
Bwyd Lefel 2. 
Bydd grwp bore coffi Maes Glas, a gynhelir gan ferched Eglwys y Drindod 
Sanctaidd, hefyd yn cael rhoddion wythnosol.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol 
Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae hwn yn gynllun gwych ac yn ffordd dda iawn o sicrhau nad yw bwyd da鈥檔 cael 
ei wastraffu ac y gall pobl leol elwa o gael prydau maethlon a 
chost-effeithiol.鈥
Meddai Sheena Willbanks, gwirfoddolwr gyda鈥檙 Clwb Cinio a Chynghorydd Tref Maes 
Glas:
 鈥淏ydd cymryd rhan yn y prosiect FareShare o fudd enfawr i ni.  Dechreuodd y 
clwb cinio fel grwp bach iawn ychydig llai na dwy flynedd yn 么l a chyda cymorth 
Cymunedau鈥檔 Gyntaf, rydym wedi tyfu鈥檔 grwp cymunedol llwyddiannus gyda 
chyfartaledd o ddeg ar hugain o bobl yn dod atom ni鈥檔 rheolaidd. Byddwn yn 
cynnig pryd poeth dau-gwrs a lluniaeth am bris rhesymol iawn, a bydd y bwyd a 
gawn o鈥檙 cynllun hwn yn ein galluogi i ychwanegu at y prydau.  Rydym yn 
ddiolchgar iawn am y cyfle i gael cymryd rhan.鈥