天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathliadau ar gyfer Pen-blwydd Olive yn 103 oed

Published: 21/07/2016

Mae Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint wedi helpu un o drigolion y Sir i ddathlu pen-blwydd arbennig. Mwynhaodd Olive Yates ei phen-blwydd yn 103 oed yng Nghartref Gofal Llys Gwenffrwd yn Nhreffynnon ar 16 Gorffennaf, a daeth y Cynghorydd Peter Curtis i ymweld 芒 hi. Bu teulu a thrigolion Cartref Gofal Llys Gwenffrwd yn dathlu pen-blwydd Mrs Yates gyda hi, a chawsant de prynhawn. Ganwyd Mrs Yates ar 16 Gorffennaf 1913 yn Notty Ash yn Lerpwl ac roedd hin unig blentyn. Pan ganed hi, roedd Brenin Si么r V ar yr orsedd ac ers hynny, rydym wedi cael tri brenin arall ar Frenhines bresennol, a phan oedd hi鈥檔 ferch ifanc, fe gyfarfu 芒 hi. Pan adawodd Mrs Yates yr ysgol, fe weithiodd mewn golchdy yn Lerpwl. Fe gyfarfu 芒 George a phriododd ym mis Awst 1936 pan oedd hi鈥檔 23 mlwydd oed. Gyrrwr tramiau oedd George, ac yn ddiweddarach, bu鈥檔 gyrru lor茂au. Mae ganddi ddau o blant George a Anne, 13 o wyrion ac wyresau a llawer o orwyrion a gorwyresau. Yn ystod yr 2il Ryfel Byd, bun gweithio yn y ffatri arfau yn Lerpwl, ac fel llawer o bobl eraill, cafodd ei chartref ei fomio. Symudodd i fyw i Dreffynnon 40 mlynedd yn 么l ac mae wedi bod yn hapus byth ers hynny. Symudodd yn ddiweddar i Gartref Gofal Llys Gwenffrwd ar 6 Mehefin 2016.