Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Ysgolion newydd yn agor ym mis Medi
  		Published: 15/07/2016
Wrth iddynt edrych ymlaen at symud i鈥檞 hysgolion newydd sbon ym mis Medi, mae鈥檙 
plant wrthi鈥檔 dogfennu hanes eu hysgolion ar gyfer cenedlaethaur dyfodol drwy 
osod erthyglau mewn capsiwl amser.
Mae capsiwl amser wedi cael ei adeiladu yn wal ffreutur yr adeilad newydd ar 
Gampws Dysgu Treffynnon gwerth 拢30 miliwn lle bydd yr ysgolion cynradd ac 
uwchradd newydd wedi鈥檜 cydleoli ar safle鈥檙 hen Ysgol Uwchradd.  
Dechreuodd y gwaith adeiladu y llynedd ac mae鈥檔 mynd rhagddon dda ac ar amser. 
Bydd yr ysgolion newydd yn agor ym mis Medi 2016.
Bydd yr ysgol gynradd newydd, or enw Ysgol Maes y Felin yn gwasanaethu dysgwyr 
hyd at 11 oed. Bydd yr ysgol gynradd yn rhannu safle 芒 chyfleuster newydd ar 
gyfer Ysgol Uwchradd Treffynnon a fydd yn cael ei adeiladu er mwyn darparu 
addysg i rai 11-16 oed.  
Gosododd disgyblion or ysgolion gapsiwl amser i mewn ir wal a oedd yn cynnwys 
gwybodaeth am yr ysgol, llythyrau, prosbectws, gwybodaeth am weithgareddaur 
ysgol, darluniau, ffotograffau a llawer o gofroddion eraill.  Yr ysgolion syn 
cymryd rhan yn y prosiect hwn yw Ysgol Uwchradd Treffynnon yn ogystal 芒 
disgyblion o Ysgol Fabanod Perth y Terfyn ac Ysgol Iau Ysgol y Fron y bydd yr 
ysgol newydd yn eu disodli, a鈥檙 ysgolion partner Ysgol Gynradd Licswm, Ysgol Y 
Llan - Chwitffordd, Ysgol Bro Carmel, Ysgol Glan Aber, Bagillt, Ysgol Maesglas, 
Greenfield ac Ysgol Bryn Garth, Penyffordd Treffynnon.
Bydd lle i 600 o ddisgyblion yn yr ysgol uwchradd trillawr a lle i 315 o 
ddisgyblion yn yr ysgol gynradd unllawr. Bydd plant cynradd a myfyrwyr oedran 
uwchradd yn cael eu haddysgu yn yr adeilad newydd or radd flaenaf gydar holl 
gyfleusterau TG modern i gynorthwyo gyda dysgu.
Dwedodd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir y Fflint:
鈥淵n fuan, fe y disgyblion yn symud iw hysgolion newydd ond roeddynt yn awyddus 
i sicrhau nad yw atgofion yn cael eu hanghofio. Mae Galliford Try wedi 
gweithion agos gydar plant ac maent wedi ein cynnwys ni o鈥檙 cychwyn. 
鈥淢aer ysgolion newydd wedi cael eu hadeiladu i safon uchel, i ddarparu 
cyfleusterau or radd flaenaf a modern ar cyfleoedd dysgu gorau in plant. 
Rydym yn dymuno鈥檙 gorau i staff ar disgyblion yn eu hamgylchedd newydd鈥.
Dywedodd Jim Parker, Rheolwr Gyfarwyddwr dros Galliford Try North West:
鈥淢ae wedi bod yn bleser gweithio gydar holl ysgolion syn cymryd rhan ar 
cyngor i goff谩ur digwyddiad hwn. Maen parhau i fod yn ffynhonnell o foddhad 
mawr i鈥檙 t卯m cyfan sydd wedi gweithio ar y prosiect hwn i wybod y bydd y 
disgyblion hyn yn elwa am flynyddoedd i ddod o鈥檙 cyfleusterau newydd yma, ac 
rydym yn dymuno鈥檔 dda iddynt yn eu hysgol newydd pan fydd yn agor ym mis Medi.鈥