Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dathlu Ysgolion Iach
Published: 18/07/2016
Cynhaliwyd digwyddiad Dathlu Cyrhaeddiad blynyddol Ysgolion Iach Sir y Fflint
yn ddiweddar yn Ysgol Gwynedd, Y Fflint,
Trefnir y digwyddiad ysbrydoledig hwn sy鈥檔 codi鈥檙 ysbryd gan y cynllun Ysgolion
Iach, sy鈥檔 rhan o gyfarwyddiaeth Addysg ac Ieuenctid y Cyngor. Am y tro cyntaf
eleni, dathlwyd y digwyddiad ar y cyd 芒 Chymdeithas Gemau Ysgolion Cynradd Sir
y Fflint. Mae鈥檙 digwyddiad yn cydnabod cyraeddiadau ysgolion ym mhob agwedd ar
addysg iechyd a chwaraeon.
Daeth disgyblion o ysgolion o bob cwr o鈥檙 sir yno i dderbyn eu gwobrau gan
Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Peter Curtis, yr Aelod Cabinet dros Addysg, y
Cynghorydd Chris Bithell a鈥檙 Prif Swyddog dros Addysg ac Ieuenctid, Ian Budd.
Croesawodd Kate Fox-Parry, Cadeirydd Cymdeithas Gemau Ysgolion Cynradd Sir y
Fflint a Phennaeth Ysgol Cae鈥檙 Nant, bawb i鈥檙 digwyddiad, oedd yn cynnwys
perfformiadau rhagorol o fyd dawns (Ysgol Gatholig y Santes Fair), Codi Hwyl
(Ysgol Gynradd Goffa Wood) a gymnasteg (Ysgol Bryn Coch), yn ogystal 芒
chyflwyniad gan eGadetiaid Cornist Park a ddangosodd sut maent yn cadw eu
disgyblion, eu staff a鈥檜 cymuned leol yn ddiogel ar lein. Cafwyd cyflwyniad
hefyd gan Ysgol Cae鈥檙 Nant ar beth mae bod yn 鈥淵sgol Iach鈥� ei olygu.
Cyflwynodd y Cynghorydd Peter Curtis Wobrau Ysgolion Iach i ddeg o ysgolion 鈥�
yn amrywio o Gam 2 i Gam 5 y rhaglen. Meddai鈥檙 Cadeirydd:
鈥淢ae heddiwn amlygu鈥檙 gwaith rhagorol sy鈥檔 digwydd yn ein hysgolion fel rhan
o鈥檙 ymrwymiad parhaus i鈥檙 Cynllun Ysgolion Iach 鈥� da iawn i bawb a gymerodd
ran.鈥�
Yna cyflwynodd y Cynghorydd Bithell Wobrau Chwaraeon T卯m Sir y Fflint, oedd yn
cynnwys amrywiaeth o chwaraeon gan gynnwys rownderi, hoci, athletau, criced,
rygbi a ph锚l-droed. Ysgol Bryn Coch oedd Pencampwyr Athletau Dan Do Ysgolion
Mawr, ac maent yn haeddu clod arbennig am mai hwy oedd Pencampwyr Gogledd Cymru
gyfan hefyd.
Gwobrau mwyaf y bore oedd cyflwyniadau Gwobrau Ansawdd Genedlaethol Ysgolion
Iach. Llwyddodd tair ysgol, sef Ysgol Cornist Park, Ysgol Gynradd Mountain
Lane ac Ysgol Gynradd Southdown, i gael achrediad a chafodd tair ysgol arall eu
hailasesu鈥檔 llwyddiannus, sef Ysgol Cae鈥檙 Nant, Ysgol Gwynedd ac Ysgol Bryn
Coch.
Derbyniodd yr ysgolion eu gwobrau gan Ian Budd, a ddywedodd:
鈥淵 Wobr Ansawdd Genedlaethol yw anrhydedd uchaf y cynllun ac mae鈥檔 rhaid i
ysgolion gwblhau pum cam cyn iddynt fod yn gymwys ar gyfer y wobr - gall hyn
gymryd cyfartaledd o 10 mlynedd i鈥檞 gyflawni! Mae鈥檙 Wobr Ansawdd Genedlaethol
yn golygu datblygu ymagwedd ysgol gyfan tuag at faterion sy鈥檔 effeithio ar
iechyd a lles; maent yn cynnwys saith gwahanol thema iechyd, o Iechyd
Emosiynol, Bwyd a Ffitrwydd i鈥檙 Amgylchedd a Diogelwch.
鈥淟longyfarchiadau enfawr i bob ysgol ar gyflawniad o鈥檙 fath! Bellach, mae
saith o ysgolion Sir y Fflint wedi ennill y Wobr Ansawdd Genedlaethol, a dim
ond 116 sydd wedi ei hennill drwy Gymru gyfan 鈥� dyma pam ein bod yn dathlu
heddiw!鈥�
Ochr yn ochr 芒鈥檙 gwobrau Ysgolion Iach, cafwyd cyflwyniadau arbennig i Osian
Jones o Ysgol Glanrafon, a enillodd wobr Campwr Mwyaf Addawol 2016 a Chloe
Creedy o Ysgol Santes Gwenffrewi a enillodd wobr y Gampwraig Fwyaf Addawol.
Dyfarnwyd gwobr Cyfraniad Arbennig i Chwaraeon yn Sir y Fflint eleni i Mr
Andrew Jones a Mr David Nickless ar y cyd am eu cyfraniad i B锚l-droed Bechgyn
Ysgolion Sir y Fflint dros gyfnod o ugain mlynedd a mwy.
Ychwanegodd y Cynghorydd Chris Bithell, yr Aelod Cabinet dros Addysg:
鈥淢ae hwn yn ddigwyddiad dathlu arbennig iawn ac rwyf wastad yn edrych ymlaen at
gael bod yma. Mae鈥檔 bwysig ein bod yn cydnabod cyraeddiadau chwaraeon plant a
phobl ifanc ac yn dathlu athletwyr talentog ein sir.
鈥淢ae鈥檙 Cynllun Ysgolion Iach wedi bod yn rhedeg ers 14 mlynedd yn Sir y Fflint,
ac mae鈥檔 mynd o nerth i nerth. Mae鈥檔 hyfryd gweld y plant yn cymryd rhan mor
frwdfrydig ac yn manteisio ar bob agwedd ar y cynllun ysbrydoledig hwn 鈥� hir
oes iddo.鈥�