Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gwasanaeth Dinesig y Cadeirydd
  		Published: 15/07/2016
Bob blwyddyn, mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal gwasanaeth dydd Sul Dinesig yn 
agos at ddechrau blwyddyn newydd y Cyngor, syn dechrau ym mis Mai. 
Cadeirydd newydd y Cyngor sy’n dewis yr Eglwys. Mae Cadeirydd y Cyngor yn dewis 
aelod o’r clerigwyr i weithredu fel ‘Caplan y Cadeirydd’ yn ystod eu blwyddyn 
mewn swydd. Eleni, y Caplan yw’r Tad Roberto Ciardo SDV, offeiriad plwyf yn 
Eglwys Gatholig Rufeinig St Winefride yn Nhreffynnon.
Cynhaliwyd gwasanaeth eleni yn Eglwys St Winefride dydd Sul, 10 Gorffennaf.  
Mynychodd Aelodau Seneddol ac Aelodau’r Cynulliad lleol, yn ogystal ag aelodau 
o’r cyngor a’r gymuned leol. 
 Ar ôl y gwasanaeth, darparodd Cadeirydd y Cyngor ai gymar lluniaeth i’w 
gwesteion yng Ngwesty Stamford Gate.
Cynghorydd Peter Curtis, cadeirydd Cyngor Sir Y Fflint a’i gymar, Mrs Jenny 
Curtis, ynghyd â’i gaplan, y Tad Roberto Ciardo a Luigi a gynorthwyodd y 
Gwasanaeth Dinesig.