Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cyfleoedd adeiladu ESGYN
  		Published: 13/07/2016
Mae ESGYN Sir y Fflint wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda nifer o 
gontractwyr yn Y Fflint i gynnig cyfleoedd i gleientiaid ESGYN drwy eu 
cynlluniau mantais gymunedol. 
Cynigiodd un contractwr, 鈥楽ERS Energy Solutions LTD鈥 (SERS) sydd wedi bod yn 
uwchraddio tu allan i dyrrau, leoliadau gwaith 2 wythnos, treialon gwaith 4 
wythnos a chyfleoedd cyflogaeth. Roedd hyn o fantais fawr i gleientiaid ESGYN, 
a thrwy鈥檙 broses hon, aeth tri cleient ymlaen i gael gwaith llawn amser ar 
safle鈥檙 Fflint. 
Dywedodd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu 
Economaidd:
鈥淢ae ESGYN wedi cynnig cyfle i gleientiaid oedd yn awyddus i fynd i鈥檙 maes 
adeiladu i gwblhau Cwrs Lefel 1 a Lefel 2 mewn Iechyd a Diogelwch.  Galluogodd 
hyn hwy i gael eu cerdyn Labrwr CSCS sydd bellach yn hanfodol er mwyn cael 
caniat芒d i fynd ar safleoedd adeiladu. Rhoddodd ESGYN hefyd gyfarpar diogelu a 
phersonol (Cyfarpar Diogelu Personol) i gleientiaid, oedd yn cynnwys dillad 
gwaith ac esgidiau priodol. 
鈥淢ae鈥檔 gam gwych i bobl sy鈥檔 gwybod beth maent am ei wneud ond sy鈥檔 ansicr 
ynglyn 芒 sut i gyrraedd yno.  Mae鈥檔 wych bod 3 o bobl bellach wedi dod o hyd i 
waith llawn amser drwy鈥檙 fenter hon 鈥 diolch i gydweithio rhwng ESGYN a鈥檔 
contractwyr sy鈥檔 gweithio ar y rhaglen gyflenwi SATC.鈥
Un o鈥檙 cleientiaid hyn yw Kane Fox.  Cofrestrodd Kane, sy鈥檔 19 oed gydag ESGYN 
ym mis Ebrill y llynedd a sylweddolodd yr hoffai ddilyn gyrfa yn y diwydiant 
adeiladu. 
Meddai Mentor Prosiect ESGYN Sir y Fflint, Debbie Barker: 
鈥淕an nad oedd gan Kane brofiad na chymwysterau yn y maes hwn, fe wnaethom ni 
ddod o hyd i鈥檙 hyfforddiant a鈥檙 profiad gwaith cywir iddo. Fe drefnwyd lleoliad 
gwaith am bythefnos iddo gyda Willmott Dixon a chadw lle iddo ar gyrsiau CITB 
mewn Iechyd a Diogelwch ar gyfer ei gerdyn CSCS, Cymorth Cyntaf gyda鈥檙 Groes 
Goch a Chwrs Gweithio o Uchder gyda chwmni iechyd a diogelwch yn Yr Wyddgrug. 
Ar ddiwedd yr hyfforddiant hwn, roedd gan Kane bortffolio hyfforddiant a geirda 
gwych.  Dangosodd Kane ymrwymiad i ESGYN, felly fe wnaethom drefnu iddo fynd ar 
Gwrs Cerbydau Fforch Godi, a bu鈥檔 llwyddiannus.鈥 
Rhoddodd hyn gyfle i d卯m ESGYN ddod o hyd i brofiad gwaith i Kane gyda SERS lle 
bu Kane yn gweithio i ddechrau gyda鈥檙 t卯m ffitio ffenestri ar leoliad gwaith am 
bythefnos.  Cafodd Kane wedyn gynnig prawf gwaith, a fis Ionawr eleni cafodd 
gynnig gwaith llawn amser ar y safle.  Mae鈥檙 datblygiad hwn yn dod i ben 
bellach ac mae Kane wedi cael gwybod ei fod yn cael ei gymryd ymlaen fel 
prentis yn barhaol.  
Dywedodd Kane wrth siarad am ei brofiadau gydag ESGYN Sir y Fflint: 
鈥淩hoddodd ESGYN gyfle i fi gael gwaith, ond hefyd rhoddodd gychwyn i fi ar 
lwybr gyfra.  Rydw in 19 oed ac mae gen i nod gyrfa bellach.  Mae鈥檙 
cymwysterau sydd gen i bellach ar fy CV, yn ogystal 芒鈥檓 profiad gwaith, wedi fy 
ngwneud yn benderfynol o gyflawni fy nyheadau. Heb ESGYN Sir y Fflint a鈥檙 
cyfleoedd gwych maent wedi ei roi i fi, ni fyddai hyn wedi bod yn bosib.鈥 
Mae Kane ar hyn o bryd yn gweithio ar gontract dros dro gyda 鈥榃armer Energy鈥, 
ac yn gweithio ar ddiweddarur system wresogi yn y Tyrau yn Y Fflint.  
Cysylltwch ag ESGYN Sir y Fflint ar 01244 846090 neu 
Debbie.barker@天涯社区.gov.uk er mwyn trafod cymwysterau a lleoliadau yn y 
diwydiant Adeiladu. 
Meini Prawf Esgyn: 
Di-waith am 6 mis a mwy
Yn byw mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf 
Yn byw mewn cartref di-waith
	
	 
O鈥檙 chwith i鈥檙 dde Mark Phythian, Arolygwr Contractau CSyFf, Debbie Barker, 
Cymunedau鈥檔 Gynraf, Cyng Derek Butler, Kane Fox, Tony Jones, Rheolwr Gweithiau 
Cyfalaf CSyFf, Cyng Helen Brown, Aelod Cabinet ar gyfer Tai, John Cottrell, 
SERS