天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gostyngiad Dewisol ar y Dreth

Published: 11/07/2016

Bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Menter a Chymuned Cyngor Sir y Fflint yn ystyried adroddiad yn argymell newidiadau ir cynllun Gostyngiad Dewisol ar y Dreth Ardrethi Busnes mewn cyfarfod ddydd Mercher, 13 Gorffennaf. Maer cynllun Gostyngiad Dewisol ar y Dreth yn rhoi cymorth i sefydliadau syn cofrestru ar gyfer Ardrethi Busnes sydd naill ain elusennau cofrestredig neu wedi sefydlu at ddibenion gwirfoddol ac nid am elw. Er bod y cynllun Gostyngiad Dewisol ar y Dreth yn cael ei gymeradwyo鈥檔 flynyddol gan y Cabinet, nid yw鈥檙 egwyddorion bod sefydliad yn cael rhyddhad ardrethi ac ar ba lefel, wedi cael ei adolygu ers 2010. Mae鈥檙 argymhellion i roi鈥檙 gorau i ategu dewisol ir sefydliadau hynny sydd eisoes yn elwa o Ostyngiad Gorfodol ar y Dreth a lleihau pob dyfarniad Dewisol arall i sefydliadau Gwirfoddol ac nid er Elw i uchafswm disgownt o 80%. Mae hyn yn golygu bod yr holl sefydliadau syn elusennau cofrestredig neu wedi eu sefydlu ar gyfer dibenion gwirfoddol ac nid er elw yn dal i dderbyn disgownt cyfraddau busnes o 80%, ond bydd disgwyl iddynt wneud cyfraniad o 20% o 2017-18. Er mwyn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y sectorau elusennol a gwirfoddol, mae polisi fframwaith yn cael ei gyflwyno ar wah芒n i ddelio ag unrhyw achosion Caledi yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu i ddarparu rhwyd ddiogelwch ychwanegol. Bydd cael gwared ar ryddhad atodol dewisol a thorri yn 么l ar bob dyfarniad Rhyddhad Ardrethi Dewisol yn cynhyrchu arbedion o tua 拢87,000 o 2017-18 a thu hwnt. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol, Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢aer Cyngor yn cydnabod r么l bwysig yr holl elusennau, grwpiau gwirfoddol a sefydliadau nid-er-elw ac mae鈥檙 argymhelliad hwn yn taror cydbwysedd iawn 芒 pharhau i gynnig lefelau hael o ryddhad ardrethi ond un syn helpur Cyngor i bontio bylchau cyllideb o ganlyniad uniongyrchol i lai o gyllid gan y llywodraeth ganolog. 鈥淓r mwyn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y sectorau elusennol a gwirfoddol, rydym hefyd yn cynnig cyflwyno polisi fframwaith cliriach, i ddelio ag unrhyw achosion o galedi.