天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


SHARP: Cam 2

Published: 08/07/2016

Bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter Cyngor Sir y Fflint yn ystyried cynigion ar gyfer datblygu 40 o gartrefi Cyngor newydd ar 5 safle yn yr Wyddgrug, Coed-llai a Chei Connah dan Gam 2 o Raglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) y Cyngor mewn cyfarfod ddydd Mercher, 13 Gorffennaf. Mae cynigion manwl wedi鈥檜 cyflwyno ar gyfer cartrefi newydd ar safleoedd yn Ysgol Delyn, yr Wyddgrug (16); Heol y Goron (5) a Maes y Meillion, Coed-llai (8); Redhall (5) a The Dairy, Ffordd yr Wyddgrug (6) yng Nghei Connah. Bydd pob ty鈥檔 cael ei gynllunio i gydymffurfio 芒 Safon Tai Sir y Fflint y Cyngor. Mae鈥檙 safon yn cydymffurfio 芒 Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a byddant yn ganllaw i gynllun a manyleb yr holl dai newydd a fydd yn cael eu darparu drwyr rhaglen hon. Mae hyn yn cynnwys cynllun mewnol o safon uchel cyson ar gyfer tai, safonau uchel o effeithlonrwydd ynni a lle parcio digonol. Dywedodd y Cyng. Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: 鈥淢ae鈥檙 5 safle hwn yn ffurfio鈥檙 camau allweddol nesaf yn ein rhaglen uchelgeisiol i adeiladu tai a bydd yn ychwanegu at gynnydd sylweddol syn cael ei wneud yn y datblygiadau sydd ar waith ar hyn o bryd yn The Walks yn y Fflint ac yn Nghei Connah ar safle hen Ysgol Custom House Lane, lle mae disgwyl i鈥檙 cartrefi Cyngor newydd cyntaf mewn ers dros 20 mlynedd gael eu cwblhau cyn y Nadolig.鈥� Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, yr Aelod Cabinet Tai: 鈥淩wyn falch iawn or cynnydd syn cael ei wneud i adeiladu tai i ateb y galw mawr sydd am dai newydd a bod uchelgeisiaur Cyngor i ddarparu mwy o dai cymdeithasol a fforddiadwy i bobl Sir y Fflint yn cael eu gwireddu.鈥� 鈥淏ydd Polisi Gosodiadau Lleol yn cael ei ddatblygu i bob un o鈥檙 cynlluniau arfaethedig er mwyn sicrhau bod y nifer fwyaf posibl o gyfleoedd am dai i bobl leol.鈥�