Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Yn glud a chynnes
  		Published: 11/07/2016
Wrth ir sgaffaldiau ddod i lawr oddi amgylch y tri thwr yn y Fflint, mae鈥檙 
gwaith ar y tu mewn yn dirwyn i ben hefyd, gan nodi oes newydd ar gyfer y 
blociau twr.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio gyda Warmer Energy Services i 
ddiweddarur systemau gwresogi yn yr 84 fflat yn Richard Heights ar 102 fflat 
yn Bolingbroke Heights - cyfanswm o 286.  
Mae gan y ddau floc yma system wresogi gyffredin sydd bellach wedi cael ei 
uwchraddio i ymdrin 芒 materion megis costau ynni. Disgwylir y bydd y gwaith yn 
cael ei gwblhau yn y pythefnos nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Sir y Fflint:
 鈥淢ae Cyngor Sir y Fflint wedi gweithio gyda gwahanol gontractwyr i wella tu 
mewn a thu allan yr adeiladau a oedd angen eu huwchraddio.  Ynghyd 芒r 
inswleiddio allanol, bydd uwchraddio鈥檙 systemau gwresogi a system dwr poeth yn 
sicrhau bod y trigolion yn elwa o gartrefi cynhesach ac, o bosibl, yn arbed ar 
eu biliau gwresogi.  
 鈥淓rbyn hyn mae yna fesuryddion ym mhob fflat, i fod yn barod erbyn pan ddaw 
deddfwriaeth i rym pan fydd rhaid i bawb dalu鈥檔 unigol. Yn ogystal, rydym wedi 
gosod system iawndal tywydd, felly yn hytrach na鈥檌 fod ymlaen yn barhaol, gall 
ein preswylwyr ddibynnu ar wresogi effeithiol, ynghyd 芒r inswleiddio newydd, 
gan sicrhau amgylchedd iach a chysurus.鈥  
Meddai Nicola Bennett, Cyfarwyddwr Gweithrediadau o Warmer Energy Services: 
 鈥淩ydym yn hynod falch o fod wedi gweithio gyda Chyngor Sir y Fflint ar y 
prosiect hwn; rydym wedi gweithio gyda nhw am nifer o flynyddoedd yn gosod 
systemau gwresogi ar gyfer trigolion lleol ac mae hwn wedi bod yn barhad pwysig 
or bartneriaeth honno.  Rydym wedi mwynhau dod i adnabod y trigolion ac yn 
credun gryf y bydd y gwaith sydd wedi cael ei gwblhau yn cael effaith 
gadarnhaol iawn.鈥
Mae person ifanc sydd yn y coleg ar hyn o bryd wedi gallu dod i gael profiad 
gwaith yn rhan o鈥檙 prosiect hefyd.  Mae Callum Bates yn astudio plymio yng 
Ngholeg Cambria, a thrwy D卯m Gwaith Cyfalaf Cyngor Sir y Fflint, llwyddodd i 
gael lleoliad gwaith un diwrnod yr wythnos gyda Warmer Energy Services, gan 
weithio ochr yn ochr 芒u plymwyr a pheirianwyr.
Dywedodd Callum:
 鈥淢ae gallu gweithio gydar bechgyn yn Warmer Energy Services wedi rhoi cipolwg 
i mi ar sefyllfaoedd gwaith go iawn ac mae ac wedi cynyddu fy ngwybodaeth, 
profiad a hyder ac rwy鈥檔 sicr y bydd o fudd i mi gyda fy ngyrfa yn y dyfodol.  
Fe hoffwn ddiolch i bawb yn Warmer Energy, ac yn benodol, Tony Jones o Gyngor 
Sir y Fflint, am fy helpu i gael y lleoliad hwn.
Dywedodd, Nik Evans, Rheolwr Gwasanaethau Tai Cyngor Sir y Fflint:
鈥淔e ddaw鈥檙 gwaith hanfodol yma ar 么l dymchwel fflatiau deulawr yn safle Leas 
pan ddaeth yn amlwg nad oedd y gwaith peipiau presennol yn y tyrau addas i鈥檙 
diben. Maer pibellau wedi cael ei hailgynllunio i gyrraedd safonau heddiw ac 
mae hyn yn rhan hanfodol on hymrwymiad parhaus i gyflawni Safon Ansawdd Tai 
Cymru ym mhob un o鈥檔 eiddo erbyn y flwyddyn 2020. Mae gallu cynnig cyfle 
prentisiaeth i un o drigolion Sir y Fflint wrth i鈥檙 gwaith fynd rhagddo yn 
newyddion gwych a bydd yn ein helpu i ddarparu Mantais Gymunedol drwy鈥檙 gwaith 
rydym yn ymgymryd ag o.鈥