Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diogel fel y graig
Published: 04/07/2016
I鈥檙 rhai ohonoch sydd wedi bod yn y fflint yn ddiweddar, byddech yn sicr o fod
wedi sylwi ar drawsnewidiad y Tyrau wrth i鈥檙 sgaffaldiau gael eu tynnu.
Yn ogystal 芒 gwaith ar y tu allan, mae鈥檙 trawsnewidiad hwn yn digwydd y tu mewn
i鈥檙 adeiladau hefyd, ac maer gwaith hwnnwn dirwyn i ben.
Mae Cyngor Sir Y Fflint wedi bod yn gweithio ar osod system chwistrellu drwy
bob un or tri bloc, gan weithion agos gyda Gwasanaeth T芒n ac Achub Gogledd
Cymru. Mae鈥檙 gwaith, sydd wedi cymryd 8 mis ers ei gychwyn hyd at ei ddiwedd,
am gael ei gwblhau mewn 3 wythnos.
Maer prosiect cyfan wedi bod yn mynd am dair blynedd ers y broses dendro pan
benododd Cyngor Sir y Fflint gwmni Ymarferwyr Diogelwch Cofrestredig (YDC)
Sprinklers Wales o Dde Cymru i ymgymryd 芒鈥檙 gwaith. Mae systemau chwistrellu
wedi cael eu gosod ym mhob adeilad newydd yn dilyn cyflwyno rheoliadau
adeiladau newydd ym mis Ionawr eleni.
Er nad yw hi鈥檔 ofynnol gosod system chwistrellu mewn hen adeiladau, mae Cyngor
Sir y Fflint wedi gwneud mwy nar gofynion drwy osod system chwistrellu ym mhob
un o鈥檙 270 fflat (Richard Heights 鈥 84 fflat, Castle Heights 鈥 84 fflat,
Bolingbroke Heights 鈥 102 fflat).
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae systemau chwistrellu wedi鈥檜 gosod yn ystafell fyw, cegin, ystafell wely a
chyntedd pob fflat, yn ogystal ag yn yr holl ardaloedd cymunedol, gan gynnwys
yr islawr. Fel Cyngor, rydym wedi rhagori er mwyn sicrhau bod gan ein
preswylwyr dawelwch meddwl a鈥檜 bod yn teimlo鈥檔 fwy diogel. Gall y cynnydd mewn
diogelwch gael effaith bositif ar arbedion mewn yswiriant i鈥檙 Cyngor ac i鈥檔
preswylwyr.鈥
Dywedodd John Newman, wrth gynrychioli YDC Sprinklers Wales:
鈥淩oedd hi鈥檔 bleser gan Residential Sprinklers dderbyn y contract hwn gyda
Chyngor Sir y Fflint, ac mae wedi bod yn dasg enfawr gosod 7500 metr (4.7
milltir!) o diwbiau a 2070 o chwistrellwyr mewn 8 mis yn unig. Mae鈥檙 cyflenwad
dwr i鈥檙 system chwistrellu wedi cael ei gymryd or cyflenwad domestig wedi
gynyddu syn bod eisoes. Mae hyn yn arbed gorfod gosod tanciau a phympiau
newydd yn benodol ar gyfer y system chwistrellu, a gan nad ywr system yn cael
ei heffeithio gan fwg, dim ond gwres, maer rheolyddion wedi cael eu cysylltu
芒鈥檙 brif system larwm t芒n er mwyn rhoi鈥檙 rhybudd angenrheidiol i鈥檙 gwasanaeth
t芒n a ddylai arwain at leihau鈥檙 nifer o alwadau ffug. Hoffwn ddiolch i鈥檙
preswylwyr am eu hamynedd a鈥檜 dealltwriaeth yn ystod y gwaith.
Dywedodd Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch T芒n gyda Gwasanaeth T芒n ac
Achub Gogledd Cymru (GTAGC):
鈥淩ydym yn falch o fod wedi gweithio ar y prosiect hwn mewn partneriaeth 芒
Chyngor Sir y Fflint a Residential Sprinklers er mwyn darparu llety diogel i
breswylwyr y tri bloc twr yn y Fflint.
鈥淢ae tystiolaeth glir y gall systemau chwistrellu fod yn effeithiol wrth
rwystro t芒n rhag lledu, gan wella diogelwch t芒n yn sylweddol a lleihau
marwolaethau ac anafiadau difrifol o ganlyniad i d芒n. Mae synwyryddion mwg yn
systemau hynod o barod ac maent yn rhoi gwybod ichi os oes t芒n, ond bydd system
chwistrellu yn rhwystro鈥檙 t芒n rhag lledu a gall ei ddiffodd, a thrwy hynny
mae鈥檔 amddiffyn y preswylwyr.鈥
Dywedodd Tony Jones, Rheolwr Gwaith Cyfalaf o Gyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae hwn yn brosiect pwysig i鈥檙 tri thwr sy鈥檔 diogelu cartrefi ein tenantiaid
yn fwy rhag t芒n fel rhan o鈥檔 gwaith Safon Ansawdd Tai Cymru. Rwy鈥檔 hynod o
falch o鈥檙 modd cydweithredol o weithio gyda GTAGC wrth iddynt ein cynorthwyo ni
drwy鈥檙 prosiect. Hoffwn, hefyd, ddiolch yn fawr iawn in holl denantiaid am fod
yn amyneddgar tra bor holl brosiectau, nid gosod y system chwistrellu鈥檔 unig,
yn digwydd. Rwy鈥檔 gwerthfawrogi hynny鈥檔 fawr.鈥