Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Caffi Dementia yn agor yn Sealand
Published: 13/07/2016
Maer caffi diweddaraf i gefnogi pobl syn dioddef o ddementia au gofalwyr
wedi cael ei agor yn swyddogol yn Sealand.
Maer caffi, syniad y Cynghorydd Christine Jones, y Cynghorydd David Wisinger
ac un o Swyddogion Sir y Fflint, Luke Pickering-Jones, wedi bod yn bosibl drwy
gefnogaeth a gwaith partneriaeth grwp cymunedol lleol, Gwasanaethau
Cymdeithasol Sir y Fflint, Tai Wales & West a siop Tesco ym Mharc Siopa
Brychdyn.
Cafodd y caffi, a fydd ar agor unwaith y mis, bob 4ydd Dydd Llun, o 1-3pm ei
agor yn swyddogol yn Hyb Cymunedol St Andrew鈥檚 yn Garden City gan yr Arglwydd
Barry Jones, Llywydd Cymdeithas Alzheimer Sir y Fflint a Hyrwyddwr Dementia
Cymru a oedd yng nghwmni ei wraig, y Fonesig Janet Jones. Yn ei araith
rhoddodd yr Arglwydd Barry Jones ddiolch i bawb syn gysylltiedig ac aeth
ymlaen i ddweud:
鈥淢ae hwn yn d卯m cymunedol go iawn ac mae pob un ohonoch yn rhan ohono.
Llongyfarchiadau i Gyngor Sir y Fflint, yr eglwys ar gymuned am gyfoethogi
bywydau pobl leol. Mae鈥檙 Cynghorydd Christine Jones yn haeddu clod mawr am ei
menter. Mae hyn yn ddychmygus a gofalgar iawn ohoni. Maer maes hwn o
wasanaethau cymdeithasol mor bwysig ac mae鈥檔 bleser gen i gydnabod Sir y Fflint
fel y sir gorau yng Nghymru - y sir sy鈥檔 cael ei harwain a鈥檌 threfnu orau.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Sir y Fflint:
鈥淩ydym wedi llwyddo i drefnu鈥檙 caffi hwn yn gyflym iawn 鈥 o鈥檙 egin syniad hyd
rwan, mae wedi cymryd tua 2 mis. Maer grwp cymunedol, Cyfeillion Dementia
Sealand a Queensferry, wedi bod yn wych fel y mae ein swyddogion ein hunain o鈥檙
gwasanaethau cymdeithasol a Chymunedau yn Gyntaf. Hoffwn ddiolch i Dai Wales
and West sydd wedi rhoir llestri a鈥檙 llieiniau bwrdd hyfryd a hefyd ir Cyng
Alex Lewis syn hyrwyddwr cymunedol ar gyfer Tesco sydd wedi rhoir diodydd a鈥檙
cacennau ar gyfer y digwyddiad a bydd yn parhau i wneud hynny.
鈥淩haid diolch yn arbennig i鈥檙 holl wirfoddolwyr gwych - yr holl famau ifanc
syn aelodau or pwyllgor - maent wedi bod yn anhygoel ac ni fyddai wedi bod yn
bosibl i agor ein caffi mor fuan ag y gwnaethom hebddynt.
鈥淗offwn gymryd y cyfle hwn i annog mwy o wirfoddolwyr a mwy o bobl 芒 dementia
au gofalwyr i ddod in caffi.鈥
Mae Caffis Dementia yn darparu amgylchedd diogel, cyfforddus a chefnogol ar
gyfer pobl 芒 dementia au gofalwyr i gymdeithasu.
Yn ogystal 芒 chynnig amrywiaeth o weithgareddau difyr a hwyliog, mae Caffis
Dementia yn rhoi cyfle i ofalwyr a phobl 芒 dementia gael gwybodaeth a chyngor a
siarad 芒 phobl eraill sydd 芒 phroblemau tebyg.
Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr dros Tai Wales & West:
鈥淕yda chaffi dementia llwyddiannus yn ein cynllun gofal ychwanegol yn Llys
Jasmine yn yr Wyddgrug, rydym yn ymwybodol iawn or angen i sefydlu mwy
ohonynt. Rydym yn falch iawn o fod wedi gwneud cyfraniad ac yn dymuno
llwyddiant i鈥檙 t卯m.鈥
Hefyd yn bresennol oedd disgyblion o Ysgol Gynradd Sealand a oedd wedi
dylunior poster ar gyfer y caffi. Cyflwynodd yr Arglwydd Barry Jones eu
gwobrau i鈥檙 ddau enillydd.
Am ragor o wybodaeth ynghylch y caffi, cysylltwch 芒 Jo Rowan ar 07341 828983.
Or chwith ir dde yn sefyll: Neil Ayling 鈥 Prif Swyddog Gwasanaethau
Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint, Sharon Jones 鈥 Rheolwr Cyflawni Clwstwr
Cymunedau yn Gyntaf, Luke Pickering-Jones Swyddog Cyngor Sir y Fflint, Yr
Arglwydd Barry Jones, Cyng Mike Walker - Cadeirydd Cyngor Cymuned Sealand, Cyng
Alex Lewis - Is-gadeirydd Cyngor Cymuned Sealand a Hyrwyddwr Tesco, Hayley
Jones - Cadeirydd Cyfeillion Dementia Sealand a Queensferry (DFSQ), Jo Rowan -
DFSQ, Parch Steven Green - Ficer St Andrew鈥檚, Louise Bryant - Is-gadeirydd
DFSQ, y Cyng David Wisinger, Anne Caloe, WWHA.
Or chwith ir dde yn eistedd: Y Fonesig Janet Jones, Jean Morgan,
Charlie Ellis a Pauline Ellis