Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Maer dewis yn ddiddiwedd
  		Published: 29/06/2016
Mae Cymunedau yn Gyntaf Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn cydweithio 芒 
Phartneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru a Theatr Clwyd 
ar raglen fusnes arloesol ar gyfer ysgolion cynradd.
Maer prosiect Dewis Ddiddiwedd, a ysbrydolwyd gan Dragons Den ai dreialu 
yn Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug, wedi ei anelu at ymgysylltu 芒 phlant 9-11 oed i 
ddatblygu hyder, siarad cyhoeddus, mathemateg a Saesneg mewn ffordd hwyliog 
gyda鈥檙 nod yn y pen draw o鈥檜 paratoi i gynnig syniad busnes i Angylion sydd i 
gyd yn entrepreneuriaid busnesau lleol sy鈥檔 gwirfoddoli eu hamser.
Cymerodd ysgolion St Ethelwolds yn Shotton ac Ysgol Maes Glas ym Maes-glas ran 
yn y fenter.  Cafodd y gweithdai eu cyflwyno mewn dwy sesiwn dros gyfnod o 
wythnos rhwng 10 a 17 Mehefin.
Adeiladodd y sesiwn ar eu sgiliau a gwaith t卯m ac fei cyflwynwyd yn yr ysgol 
gyda dau o berfformwyr o Theatr Clwyd.  Yn dilyn ymlaen o sesiwn 1 fe weithiodd 
y plant yn y dosbarth i ymarfer eu hachos yn barod ar gyfer eu cyflwyniad yr 
wythnos ganlynol.
Cefnogwyd sesiwn 2 unwaith eto gyda鈥檙 ddau berfformiwr  yn Theatr Clwyd.   
Roedd y plant yn cyflwyno eu hachos busnes gan dderbyn adborth cadarnhaol gan 
yr entrepreneuriaid busnes.
Yr Angylion oedd Christine Sheibani, Cyfarwyddwr AD Comtek Network Systems, 
Dave Fildes Rheolwr Gyfarwyddwr dfs4, Becky Stark Cyfarwyddwr Stark Export 
Focus Limited a Sam Freeman Cyfarwyddwr Cyfathrebu i Theatr Clwyd.
Dywedodd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir y Fflint:
鈥淐anlyniad y prosiect oedd creu hyder, meddwl yn greadigol, gwaith t卯m, 
cyfranogiad effeithiol a hunan-gymhelliant.  Mae wedii anelu at ddisgyblion 
blwyddyn 6 ac maen weithdy rhagarweiniol delfrydol i entrepreneuriaeth.  Maer 
prosiect wedi bod mor llwyddiannus y bydd yn cael ei gyflwyno i 10 o ysgolion 
iau mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ym mis Medi.鈥
Meddai Emyr John o Theatr Clwyd, a luniodd y prosiect ar 么l i Cymunedau yn 
Gyntaf gysylltu ag ef:
鈥淢ae hon yn enghraifft o sut y gellir defnyddio theatr fel offeryn, nid yn unig 
i ddysgu, ond i ysbrydolir genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid.鈥
Dywedodd Rheolwr Ymgysylltu Cyflogwyr Ymgyrraedd yn Ehangach Gogledd a 
Chanolbarth Cymru, Paula Griffiths:
鈥淭rwyr bartneriaeth hon gyda Theatr Clwyd a Chymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint, 
rydym yn defnyddio celfyddydau i godi dyheadau pobl ifanc a鈥檜 grymuso ac i greu 
eu syniadau eu hunain wrth archwilio cyfleoedd i symud ymlaen i Fusnes ac 
Addysg Uwch mewn ffordd arloesol a llawn hwyl.鈥
Ynghyd 芒r gweithdy ar ddydd Gwener, 17 Mehefin, cafodd y plant y cyfle i weld 
To Dream Again gan Toby Hulse.  Maer ddrama, i blant 7-11 oed, wedi鈥檌 
hysbrydoli gan ddrama A Midsummer Night鈥檚 Dream gan William Shakespeare.
Ariannwyd y prosiect gan Cymunedau yn Gyntaf - rhaglen a ariennir gan 
Lywodraeth Cymru 鈥 sy鈥檔 gweithio mewn partneriaeth 芒 Phartneriaeth Ymgyrraedd 
yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru, a ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg 
Uwch Cymru.  Sefydlwyd Ymgyrraedd yn Ehangach yn 2002 fel  rhaglen 
gydweithredol a  hirdymor i Gymru gyfan, i dorri rhwystrau canfyddedig i lawr 
ac ehangu mynediad i sgiliau addysg uwch a lefel uwch.
AR SET MUCH ADO ABOUT NOTHING鈥
Disgyblion o Ysgol St Ethelwolds gyda (yn y cefn) eu hathrawes, Christine 
Sheibani Cyfarwyddwr AD Comtek Network Systems, Dave Fildes Rheolwr Gyfarwyddwr 
dfs4 a Sam Freeman Cyfarwyddwr Cyfathrebu i Theatr Clwyd.  Nia Davies yn y rhes 
flaen mewn du yw un or perfformwyr o Theatr Clwyd.
Disgyblion o Ysgol Maes Glas (yn y cefn) gyda鈥檜 hathrawes, Christine Sheibani 
Cyfarwyddwr AD Comtek Network Systems, Dave Fildes Rheolwr Gyfarwyddwr dfs4 a 
Sam Freeman Cyfarwyddwr Cyfathrebu i Theatr Clwyd.  Nia Davies yn y du ar y dde 
yw un or perfformwyr o Theatr Clwyd.