Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Swyddog Sir y Fflint yn ennill gwobr arweinyddiaeth
  		Published: 23/06/2016
Mae Cyngor Sir y Fflint yn dathlu ar 么l i un oi swyddogion ennill gwobr 
arweinyddiaeth fawreddog.
Mae Rhian Evans, Rheolwr T卯m Gwasanaethau Iechyd Meddwl, wedi ei chydnabod am 
arddangos arweinyddiaeth ragorol trwy ennill y wobr Arweinyddiaeth yn y Sector 
Cyhoeddus, a noddwyd gan Academi Cymru yng Ngwobrau Arwain Cymru eleni, ar y 
cyd 芒 Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Cafodd Rhian ei henwebu gan San Leonard o Gwmn茂au Cymdeithasol Cymru a 
ddywedodd:
鈥淢ae Rhian yn arwain t卯m o fewn gwasanaethau cymdeithasol sy鈥檔 cefnogi pobl yn 
Sir y Fflint sy鈥檔 rheoli problemau iechyd meddwl.  Yn 2011, cafodd Rhian ei 
hysbrydoli gan geisiadau defnyddwyr gwasanaeth i ddatblygu un gwasanaeth iechyd 
meddwl i bontio i Gwmni Cymdeithasol annibynnol a allai ddarparu cyflogaeth i 
bobl reoli problemau iechyd meddwl, ac eto cadw perthynas 芒r awdurdod lleol. 
Roedd ganddi weledigaeth glir or hyn yr oedd yn bwriadu ei gyflawni, ond roedd 
yn gwybod na allai ei gyflawni ei hun ac roedd angen mynd ag eraill ar y daith 
gyda hi.
Cafodd Rhian ei chanmol gan y beirniaid am fod yn esiampl anhygoel o dalent ac 
arweinyddiaeth sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol i economi Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol 
Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae Rhian wedi arwain menter arloesol sydd wedi arwain at greu鈥檙 fenter 
cyflogaeth gyntaf syn cefnogi pobl sy鈥檔 rheoli problemau iechyd meddwl yn y 
Sir.  Mae hyn wedi creu amgylchedd lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu 
cynnwys, eu gwerthfawrogi, yn gallu tyfu a datblygu.  Hoffwn longyfarch Rhian 
ar ran Cyngor Sir y Fflint.
Mae gwobrau arweinyddiaeth hir-sefydledig ac ymroddedig Cymru bellach yn eu 
deuddegfed blwyddyn.  Maent yn ceisio cydnabod a dathlu r么l arweinyddiaeth fel 
sbardun allweddol o lwyddiant economaidd yng Nghymru. 
Dywedodd Cadeirydd Consortiwm Gwobrau Arwain Cymru Barbara Chidgey; Maen 
hollol glir bod arweinyddiaeth dda yn dod mewn bob lliw a llun a鈥檌 fod yn 
hanfodol ym mhob agwedd ar fywyd i yrru newid cadarnhaol a chynaliadwy. Mae鈥檙 
her yw nodi a chydnabod arweinyddiaeth ddibynadwy, drawsnewidiol ac effeithiol 
gan fod y ffordd y mae unigolion yn arwain ynddoi hun yn amrywiol. Fodd 
bynnag, mae gan ein henillwyr ysbrydoledig yn y rownd derfynol ffactorau pwysig 
iawn yn gyffredin: maent yn frwdfrydig am eu hachos, busnes neu sefydliad; mae 
eu hegni a鈥檜 hymdrech yn cael ei gyfeirio at wneud gweledigaeth eu hachos yn 
realiti ac maent wir yn poeni am y bobl maent yn gweithio gyda nhw ac ar eu 
rhan; maent yn onest ac maent yn ddibynadwy. 
Rydym yn llongyfarch pob enillydd a phawb yn y rownd derfynol eleni.鈥
Rhian yn derbyn ei gwobr gan Zoe Sweet o Academi Cymru, noddwyr y categori 
Arweinyddiaeth yn y Sector Cyhoeddus