Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Dathliadau pen-blwydd yn 100 oed!
  		Published: 23/06/2016
Mae Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint wedi helpu dau o drigolion Sir y Fflint i 
ddathlu pen-blwydd arbennig trwy ymweld 芒 hwy dydd Iau 16 Mehefin.
Ganwyd Mrs Gwen Prior ar 7 Mehefin 1916 yn Queensferry ac astudiodd ei thad yn 
Eaton.  Bu Mrs. Prior yn gweithio yn Courtaulds, yna gweithiodd yn John Summer 
yn ystod y rhyfel ac roedd ei gwr dramor. Roedd hin briod 芒 Bob Prior a oedd 
yn y llu awyr a bu鈥檔 gweithio dramor am flynyddoedd lawer. 
Mae ganddi ddau o blant, Norma a Valerie, pedwar o wyrion a gor-wyr.   
Roedd hin arfer mwynhau gwau, mae hi wrth ei bodd yn darllen a phan oedd hi鈥檔 
iau roedd hi wrth ei bodd yn mynd i鈥檙 arfordir gydai gwr. 
Ganwyd Mrs Lily Hutchinson ar 16 Mehefin 1916 ym Mwcle, yn un o bump o blant, a 
chafodd blentyndod hapus yn byw ac yn chwarae gyda ffrindiau yn y trap. 
Bun gweithio yn ffatri Courtaulds a chyfarfu 芒鈥檌 gwr, George Hutchinson.  
Priododd y ddau ym 1940 a chafodd dri o blant, George Phillip, Dennis a 
Malcolm.  Yn anffodus bu farw George Phillip yn ystod babandod a bu farw 
Malcolm yn 2009. Dennis ywr Cynghorydd Sir dros Pentrobin Bwcle. 
Mae ganddi bum wyrion a deg o or-wyrion. 
Mae Lily yn deyrngarwr mawr ac wedi bod yn gefnogwr mawr or Frenhines ar fam 
Frenhines ar hyd ei hoes.
Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Peter Curtis, ai wraig ai 
Gydymaith, Jenny, gyda Gwen Prior
Or chwith ir dde: Maer Bwcle, Cynghorydd Andrew Williams, Mrs. Jeanne 
Hutchinson (gwraig Dennis), Mrs. Jennifer Curtis, Consort Cyngor Sir y Fflint, 
y Cyng. Peter Curtis, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cyng. Dennis Hutchinson 
(yn penlinio wrth ymyl Mrs Lily Hutchinson) a Mrs. Joan Hutchinson (gwraig 
Malcolm).