Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Hyder yn yr hyn rydym yn ei fwyta
  		Published: 16/06/2016
Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo Cynllun Gwasanaeth Bwyd 
2016-17 y sir pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth, 21 Mehefin.
Maer cynllun wedi cael ei gynhyrchu gan swyddogion o鈥檙 T卯m Diogelwch Bwyd a 
Safonau ac maen nodi sut y bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn y flwyddyn 
ariannol hon a hefyd yn adolygu perfformiad yn ystod y flwyddyn ariannol 
ddiwethaf. 
Maer Cynllun Gwasanaeth Bwyd yn cwmpasu diogelwch bwyd (gorfodi diogelwch bwyd 
a deddfwriaeth hylendid bwyd yn yr holl sefydliadau bwyd yn y sir, safonau bwyd 
(gwirio sefydliadau ac ymdrin 芒 chwynion) a bwydo (ymweliadau i safleoedd 
bwydo, yn darparu gwybodaeth a delio 芒 chwynion).
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer 
Gwarchod y Cyhoedd: 
Drwy gymeradwyo Cynllun Gwasanaeth Bwyd eleni, bydd y Cabinet yn sicrhau bod y 
safonau diogelwch bwyd uchel a hylendid a sefydlwyd eisoes o fewn y sir yn 
parhau.  Mae ein t卯m Diogelwch Bwyd a Safonau yn gweithion hynod o galed i 
sicrhau y gall trigolion Sir y Fflint fod yn hyderus o lefel uchel o hylendid 
pan mae bwyd dan sylw.  Maer Cynllun yn dilyn yr egwyddor fferm i fforc i 
sicrhau bod bwyd yn ddiogel iw fwyta.