Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Dathliadau pen-blwydd Esther yn 100 oed!
  		Published: 20/06/2016
Mae Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint wedi helpu un o drigolion Sir y Fflint i 
ddathlu pen-blwydd arbennig.
Mwynhaodd Esther Critchley ei phen-blwydd yn 100 oed yng Nghartref Gofal 
Preswyl Croes Atti yn y Fflint gydag ymweliad gan y Cynghorydd Peter Curtis. 
Ganwyd Esther yn Fferm Mynydd Pen Ucha, Sychdyn ar 13 Mehefin 1916. Yn ferch 
canol i John a Mary Morrison, fe fynychodd Ysgol Sychdyn cyn ennill 
ysgoloriaeth i Ysgol Ramadeg yr Wyddgrug (yr Alyn).  
Ar 么l gadael yr ysgol yn 14 oed, aeth Esther i wasanaethu yn Southport am 3 
blynedd, ac yna aeth i Bontblyddyn ac yna i Neuadd Cornist yn y Fflint i 
weithio ir teulu Summers. 
Priododd Ralph Blackwell yn Ebrill 1940 cyn mynd i weithio i Dr Ross yn y 
Fflint, a chafodd ei merch Maureen ei geni ym 1944. 
Un uchafbwynt ym mywyd Esther oedd cyfarfod y Frenhines ym 1953 a oedd yn 
ymweld 芒 Phafiliwn yr Eisteddfod yn y Rhyl ar ran y wladwriaeth.  Doedd hi ddim 
yn meddwl bryd hynny y byddain cael cerdyn gan y Frenhines ar ei Phen-blwydd 
yn 100 oed! 
Bu farw ei gwr cyntaf ym 1988 ac fe briododd Donald Critchley ym 1992, gan 
hedfan dramor am y tro cyntaf yn ei bywyd i fynd ar wyliau. Roedd Esther yn byw 
yn Sychdyn gydol ei hoes tan 2009, pan aeth i fyw yng Nghroes Atti lle mae hi 
wedi bod yn hapus ac yn derbyn gofal da ers hynny.
 Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Peter Curtis, gyda Esther 
Critchley.