Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Adolygu Strategaeth Maes Parcio
  		Published: 10/06/2016
Yn ei gyfarfod ar ddydd Mercher 15 Mehefin bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffur 
Amgylchedd yn ystyried canlyniadau adolygiad o Strategaeth Maes Parcio鈥檙 Cyngor 
oedd, pan gymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Ebrill 2015, yn cynnwys 
argymhelliad i gynnal adolygiad blwyddyn ar 么l ei chyflwyno.  
Maer adolygiad hwn bellach wedi cael ei gynnal ac mae barn trigolion, busnesau 
a sefydliadau cyhoeddus wedi cael ei hystyried.  
O ganlyniad ir adborth a dderbyniwyd, mae nifer o newidiadau yn cael eu cynnig:
Yn dilyn y cynllun peilot yn Nhreffynnon, trwyddedau parcio i gael eu cyflwyno 
i fusnesau a thrigolion sydd wediu lleoli agosaf i faes parcio arhosiad byr.  
Bydd cost y drwydded yr un fath ag ar gyfer maes parcio arhosiad hir.  Mae 
nifer y trwyddedau a roddir i gael eu capio ar 20% or lleoedd sydd ar gael yn 
gyffredinol gan adael digon o le ar gyfer siopwyr ac ymwelwyr.
Ar gais Fforwm Masnach Tref neu Gyngor Tref unigol tocynnau dwbl i gael eu 
cyflwyno. Peiriannau tocynnau yn yr ardaloedd hyn i gael eu ffurfweddu i 
gynhyrchu dau docyn wrth dalur tariff cywir.  Un tocyn i gael ei arddangos yn 
y cerbyd ar llall i gael ei ddefnyddio i gael ad-daliad gan fusnesau syn 
cymryd rhan.  Mae rhestr o fusnesau syn cynnig ad-daliadau i gael eu 
harddangos yn glir ym mhob maes parcio. 
Rhoi cyfle i fusnesau lleol hysbysebu ar gefn y tocyn parcio.
Mae lefelau defnydd ymhob un or meysydd parcio i gael eu monitro au hadolygu 
i ddilysur dosbarthiadau arhosiad byr neu hir cyfredol.   
Monitro鈥檙 defnydd o lefydd parcio i鈥檙 anabl i sicrhau bod darpariaeth yn 
briodol ac yn ddigonol.   Yn yr un modd bydd yna adolygiad o lefydd beic modur. 
Adolygiad o arwyddion ym mhob maes parcio i gael ei wneud i sicrhau bod 
defnyddwyr yn cael gwybodaeth glir am yr angen i dalu a thariffau 
perthnasol.      Y nifer o beiriannau tocynnau ar gael ym mhob lleoliad hefyd i 
gael eu hadolygu. 
Adolygiad o argaeledd lle parcio arhosiad byr ar y stryd yn yr ardaloedd o 
amgylch bob tref i gael ei wneud, os yn bosibl, i ddarparu rhywfaint o le 
parcio arhosiad byr am ddim ar gyfer ymweliadau cyflym i ganol y trefi.  
Rhoddir ystyriaeth hefyd ir posibilrwydd o ganiat谩u i lefydd parcio i鈥檙 anabl 
fod yn ddefnydd deuol, gan alluogi gyrwyr sydd 芒 phlant bach i barcio yn y 
lleoedd gwag mewn rhai meysydd parcio.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros 
yr Amgylchedd:
鈥淢aer tariffau mae pobl yn ei dalu i barcio yn cael eu defnyddio i gynnal a 
gwella cyfleusterau parcio.   Mae rhannu鈥檙 costau rhwng holl ddefnyddwyr y maes 
parcio yn helpu鈥檙 Cyngor i amddiffyn gwasanaethau hanfodol eraill, megis 
gwasanaethau cymdeithasol ac addysg, sydd dan fygythiad o ostyngiadau cyllideb 
parhaus.
鈥淢ae meysydd parcio talu ac arddangos yma i aros yn Sir y Fflint, fodd bynnag, 
maen bwysig ein bod yn casglu ac yn gwrando ar yr adborth a gawn fel y gallwn 
wella profiad defnyddwyr y maes parcio a busnesau lleol.
Yn dilyn ystyriaeth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu bydd yr adroddiad yn cael 
ei gyflwyno ir Cabinet ar 21 Mehefin.