天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cofio Glowyr Pwll Glo Bettisfield 

Published: 27/07/2021

Mae'r nifer o fywydau a gollwyd ym Mhwll Glo Bettisfield bellach yn cael eu coff谩u gyda cherflun deial haul, a ddadorchuddiwyd ddydd Gwener, 23 Gorffennaf gan yr Arglwyddes Hanmer o Bettisfield (Whitchurch).听

Agorodd teulu Hanmer y Pwll Glo yng nghanol y 1800au, gan ddarparu gwaith i dair cenhedlaeth o lowyr. Yn 850 troedfedd, hwn oedd y dyfnaf o'r nifer o byllau yn y pentref ac roedd yn ymestyn ymhell o dan Aber Afon Dyfrdwy i gyfeiriad Neston. Roedd yn cael ei adnabod yn lleol fel 鈥榶 lladd-dy鈥� gan fod cymaint o ddamweiniau. Ar frig ei gynhyrchiad ym 1908, cyflogwyd 641 o ddynion yn y pwll glo.听

Gweledigaeth Cyfeillion Blaendraeth Bagillt oedd y Prosiect Coffa, grwp cymunedol lleol a sefydlwyd i ddatblygu a gwella treftadaeth naturiol a hanesyddol yr ardal. Roedd y Cyfeillion wedi comisiynu'r gof a'r artist lleol, Peter Carlyle i ddylunio a gwneud y Goelcerth Ddraig adnabyddus, a dewiswyd ef hefyd i ddylunio a gweithgynhyrchu'r cofeb y deial haul. Galluogodd grantiau gan Gyngor Cymuned Bagillt a Chymdeithas Adeiladu Skipton i鈥檙 prosiect gychwyn.

听

Dywedodd, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:

鈥淢ae Blaendraeth Bagillt bellach yn fan gwyrdd gwerthfawr i鈥檙 gymuned leol ei fwynhau, ac yn fudd i iechyd a lles pobl. Mae'r gofeb yn cofio cyfnod gwahanol yn hanes y safle fel Pwll Glo. Collodd llawer o deuluoedd anwyliaid yn ystod yr amser hwn. Mae'n deyrnged addas iddyn nhw, ond bydd hefyd yn rhoi mwynhad i bawb a fydd yn ymweld 芒'r safle yn y dyfodol.鈥澨�

Meddai Gruffudd Owen, Cyfoeth Naturiol Cymru:

鈥淢ae miloedd o bobl yn cerdded Llwybr Arfordir Cymru yn yr ardal hon bob blwyddyn. Mae nodweddion fel y gofeb deial haul yn cyfoethogi profiad a gwerthfawrogiad pobl drwy ddod 芒 threftadaeth y gorffennol ar hyd y llwybr yn fyw.鈥�

Meddai cr毛wr y cerflun, Peter Carlyle:

听鈥淔el trigolyn lleol roeddwn yn falch o gael cais i greu鈥檙 cerflun hwn ar gyfer cymuned Bettisfield. Gobeithio y bydd cenedlaethau lawer yn ei drysori.鈥�

Ni fyddai鈥檙 gofeb wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth y prif arianwyr, Llywodraeth Cymru, a ddarperir drwy Lwybr Arfordir Cymru, a Chyfoeth Naturiol Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chyngor Sir y Fflint. Hoffem ni ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am eu cyfraniad.听

Rhaid diolch hefyd am y deunyddiau neu鈥檙 gwasanaethau a ddarparwyd, gan gynnwys Jeff Ellis a鈥檌 Fab, Jones Brothers Concrete, J R Roberts Slurry Sealing Ltd, Rugeley Power, Gof Carlyles a hefyd bobl hael Bagillt, gan gynnwys Cyfeillion Blaendraeth Bagillt.听

DSC_0157.jpg听 听 听 DSC_0175.jpg

听