天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathliadau 10 mlwyddiant wedi cychwyn i Wythnos Fusnes Sir y Fflint

Published: 14/06/2016

Lansiwyd Wythnos Fusnes Sir y Fflint, prif ddigwyddiad busnes Cyngor Sir y Fflint sydd erbyn hyn yn ei ddegfed flwyddyn, ar 6 Mehefin yn Neuadd Sychdyn, yn Llaneurgain. Mae鈥檙 wythnos fusnes ei hun wedi symud i fis Medi a bydd yn cael ei chynnal o 27 tan 30 Medi, gyda Gwobrau Busnes Sir y Fflint 2016 yn dilyn ddydd Gwener, 21 Hydref. Mae鈥檙 digwyddiad, mewn cydweithrediad ag AGS Security Systems a Westbridge Furniture Designs, yn un o鈥檙 digwyddiadau pwysicaf o鈥檌 fath yn yr ardal, gan ddenu dros 2,000 o fusnesau鈥檔 rheolaidd. Maen cefnogir gymuned fusnes yn y sir ac, yn gynyddol, y rhanbarth ehangach, i hyrwyddo eu cwmn茂au, i ddatblygu cyfleoedd masnachu ac i godi proffil yr ardal fel lle i fuddsoddi ynddo. Dyma鈥檙 drydedd flwyddyn ir Arglwydd Barry Jones arwain y digwyddiad. Mae gan yr Arglwydd Jones brofiad helaeth iawn o weithio i helpu diwydiannau yng Nghymru ac yn Nglannau Dyfrdwy. Roedd yn un or Aelodau Seneddol a wasanaethodd hiraf yn Nhyr Cyffredin a bu鈥檔 Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae uchafbwyntiau鈥檙 rhaglen elenin cynnwys yr Arddangosfa Fusnes Ranbarthol yng Ngholeg Cambria, Glannau Dyfrdwy; noson Swyddi a Sgiliau Rhanbarthol yng Ngwesty De Vere Village; seminarau Economi ac Uchelgais yn Neuadd Sychdyn a Digwyddiad Rhwydwaith Twristiaeth ym MhentrePeryglon yn Nhalacre. Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton: 鈥淢ae Wythnos Fusnes Sir y Fflint yn helpu ein busnesau lleol ac yn rhoi ein hardal ni ar y map. Maen bartneriaeth unigryw a llwyddiannus iawn rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat. Rwyf wrth fy modd bod yr Arglwydd Barry Jones yn parhau fel Llywydd yr Wythnos Fusnes, ac rydyn ni鈥檔 ffodus iawn o gael llysgennad mor wych ar gyfer diwydiant a鈥檔 sir. Dywedodd yr Arglwydd Jones: 鈥淏raint o鈥檙 mwyaf yw cael bod yn rhan o Wythnos Fusnes Sir y fflint, yn enwedig eleni gan ei bod yn dathlu deng mlwyddiant. 鈥淩ydyn ni鈥檔 gobeithio datblygu鈥檙 Wythnos Fusnes ymhellach yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf er mwyn ei gwneud hyd yn oed yn fwy llwyddiannus. Dywedodd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu Economaidd: 鈥淢ae Wythnos Fusnes Sir y Fflint wedi tyfu o nerth i nerth dros y ddeng mlynedd ddiwethaf ac wedi croesawu dros 23,000 o gynrychiolwyr yn ystod y cyfnod hwnnw. Hoffwn ddiolch i鈥檔 prif noddwyr, AGS Security Systems 鈥 noddwyr y Gwobrau Busnes a Westbridge Furniture Designs 鈥 noddwyr yr Arddangosfa Fusnes. Heb eu cefnogaeth nhw, ni fyddair digwyddiadau hyn wedi tyfu i fod yn achlysuron mor fawreddog fel ag y maent heddiw.鈥 鈥淗efyd, mae鈥檔 rhaid dweud ein bod yn ffodus iawn o gael Llysgennad Busnes Sir y Fflint, y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Barry Jones, yn Llywydd.鈥 鈥淗offwn annog pawb i ddod draw ir digwyddiadau ym mis Medi eleni.鈥 Am gyfleoedd i noddi, neu i archebu stondin, ac am fanylion pellach am yr holl ddigwyddiadau a gynhelir yn ystod yr Wythnos Fusnes, cysylltwch 芒鈥檙 T卯m Wythnos Fusnes ar 01352 703219. Or chwith Jenny Pridding a Richard Pridding - Edge Transport, Jonathan Turner - AGS Security Systems, Paul Islip - Westbridge Furniture Designs, y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Barry Jones - Llywydd Wythnos Fusnes Sir y Fflint, Colin Everett - Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, yr Athro Maria Hinfelaar - Prifysgol Glyndwr Wrecsam, Kate Muddiman - Coleg Cambria, Collin Singer Wagtail UK