Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diwedd y gwaith adnewyddu ar y gorwel
Published: 13/06/2016
Maer sgaffaldau wedi dechrau dod i lawr yn Richard Heights - un or blociau
fflatiau twr yn y Fflint 鈥 sy鈥檔 cyhoeddi dechrau diwedd y gwaith uwchraddio
sylweddol syn rhan o gynlluniau uchelgeisiol Cyngor Sir y Fflint i adfywior
dref.
Maer gwaith ar raddfa fawr ar y 270 o fflatiau wedi cael ei wneud gan y
contractwr SERS Energy Solutions Ltd (SERS). Maer cynllun hwn yn rhan o Safon
Ansawdd Tai Cymru (SATC) Cyngor Sir y Fflint, cynllun uwchraddio 拢100 miliwn i
stoc tair Cyngor ledled y sir. Mae eiddo yn y broses o gael insiwleiddio鈥檙
waliau allanol, gan gynnwys ffenestri a drysau newydd i wella diogelwch,
lleihau鈥檙 gwres a gollir a lleihau allyriadau carbon.
Maer gwaith hefyd yn cynnwys ailosod y to, gwelliannau ir system wresogi ac
uwchraddio teledu o hen gebl gyfechelog i gebl ffibr optig modern. Maer
prosiect hefyd wedi cynnwys gosod system gwasgaru dwr mewn cydweithrediad 芒鈥檙
Gwasanaeth T芒n ac adnewyddu pibellau nad oeddent bellach yn addas ir diben ar
么l dymchwel y fflatiau deulawr a oedd yn gysylltiedig 芒r hen system yn y ddau
floc twr.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢aer gwaith sy鈥檔 cael ei gwblhau yn ymwneud 芒 diogelu鈥檙 adeiladau poblogaidd
hyn i鈥檙 dyfodol a sicrhau bod tenantiaid yn mwynhau cartrefi syn gynnes, yn
gyfforddus ac yn fforddiadwy. Adeiladwyd y tri twr yn y 1960au ar 1970au ac
roedd angen dybryd am eu diweddaru. Rydym yn deall bod y gwaith wedi bod yn
tarfu ar denantiaid a hoffwn ddiolch i bob un ohonynt am eu hamynedd au
dealltwriaeth yn ystod y gwaith. Rwyn gobeithio y byddant yn teimlo bod y
cyfan wedi bod yn werth chweil.鈥
Mae SERS wedi cwblhau atgyweiriadau concrit yn ogystal 芒 darparu system rendro
silicon wedi鈥檌 insiwleiddio ar waliau allanol y tyrau.
Esboniodd John Cottrell, Rheolwr Prosiect SERS:
鈥淩oedd y tyrau yn thermol aneffeithlon - roeddent yn llythrennol yn gollwng
gwres ac mae鈥檙 gorchudd allanol hwn yn eu diweddaru ac yn dod 芒 nhw y tu hwnt
ir safonau adeiladu cyfredol ar gyfer effeithlonrwydd thermol adeiladau
newydd. Yn ei hanfod, rydym wedi eu gorchuddio 芒 siaced wlanog fawr. Bydd y
siaced hon yn cadw鈥檙 gwres i mewn yn ystod y gaeaf, a bydd yn helpu i atal yr
adeilad rhag gorboethi yn yr haf.鈥
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton:
鈥淢aer contract hwn wedi bod yn gam cyntaf aruthrol o bwysig ar gyfer
strategaeth dai y Cyngor ac mae鈥檔 dangos ein bod o ddifrif wrth ddweud bod gan
ein holl drigolion yr hawl i lety a safonau byw gweddus a phriodol. Bydd y
gwaith yn anadlu bywyd newydd i mewn i鈥檙 fflatiau ac yn eu gwneud yn effeithlon
o ran ynni, yn gostwng allyriadau carbon a chostau gwresogi yn y dyfodol.鈥
Mae Mrs Jean Schofield, sydd wedi byw yn Richard Heights ers dros 30 mlynedd
wrth ei bodd gydar gwaith adnewyddu. Dywedodd:
鈥淓r y bu rhywfaint o aflonyddwch, sydd yn anochel gydag unrhyw fath o waith
mawr fel hyn, mae鈥檙 contractwyr ar Cyngor wedi ein hysbysun rheolaidd am beth
oedd yn digwydd. Mae gweld y sgaffaldiau yn dechrau dod i lawr yn wirioneddol
gyffrous - bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i edrychiad allanol y tyrau. Ac
rydym eisoes yn elwa or gwelliannau mewnol. Diolch yn fawr i bawb syn
gysylltiedig.鈥
Or chwith: Y Cyng David Cox, trigolion Christina Rodriguez ac Evelyn Avery,
Tony Jones, Rheolwr T卯m Gwaith Cyfalaf Cyngor Sir y Fflint, trigolion Ann
Cashmore, Anne Bennett a Jean Schofield, Mark Phythian a Chris Grocott,
Syrfewyr Contract Cyngor Sir y Fflint ar Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet
dros Dai