Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Dewch i gael rhywfaint o amser gwyllt yr haf hwn!
  		Published: 02/06/2016
Mae Wythnos Bioamrywiaeth Cymru eleni yn rhedeg o ddydd Sadwrn 4 Mehefin i 
ddydd Sul, 12 Mehefin, gyda llawer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn Sir y 
Fflint i ddathlu.
Yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, bydd Fy Amser Gwyllt yn cael ei lansio - ymgyrch 
i gael pobl i ailgysylltu 芒 natur. Mae Fy Amser Gwyllt yn ymwneud 芒 dod o hyd 
i鈥檆h ochr wyllt drwy fynd tu allan a sylwi ar y byd on cwmpas, bydd yn rhedeg 
ochr yn ochr 芒n rhaglenni Digwyddiadau sirol. 
Ni allai fod yn haws i gymryd rhan, felly ymunwch 芒r ymgyrch #fyamsergwyllt.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros 
yr Amgylchedd:
 鈥淢ae ein t卯m bioamrywiaeth yma yn Sir y Fflint yn angerddol am fywyd gwyllt a 
natur ac am i gymaint o bobl 芒 phosib i gymryd rhan.  Maen anhygoel i glywed 
bod rhai plant 8-12 oed, a arolygwyd yn ddiweddar gan sianel deledu Eden, yn 
credu fod gwartheg yn gaeafgysgu yn y gaeaf, ond yn adnabod dalek ond nid 
tylluan ac yn meddwl fod gwiwerod llwyd yn frodorol ir wlad hon.   Rydym yn 
gweld ystadegau fel bod 64% o blant yn chwarae y tu allan llai nag unwaith yr 
wythnos, ond mae mwy o dystiolaeth nag erioed i gefnogi鈥檙 manteision o dreulio 
amser ymysg natur a chwarae gwyllt distrwythur i blant.
Dywedodd Swyddog Bioamrywiaeth Cyngor Sir y Fflint, Sarah Slater, syn trefnur 
ymgyrch yn Sir y Fflint:
 鈥淢ae ein hymgyrch yn rhedeg trwy鈥檙 haf, gallwch lwytho lluniau ohonoch chi 鈥測n 
cael amser gwyllt鈥 ar ein tudalen facebook https://www.facebook.com/NEWBioNet/ 
neu gyfrif twitter @NEWBioNet ddefnyddio #fyamsergwyllt.
 鈥淟lwythwch lun yn ystod wythnos Bioamrywiaeth Cymru 4-12 Mehefin ac fe anfonwn 
nwyddau Wythnos Bioamrywiaeth Cymru atoch (un i bob person tra bo stoc).  
Anfonwch e-bost atom yn biodiversity@flintshire.gov.uk gydar ddolen ich post 
trydar neu facebook a chynnwys eich cyfeiriad post.
Os ydych yn rhedeg dosbarth neu grwp, beth am gymryd rhan a鈥檌 symud tu allan
Cylch chwarae yn y parc, Celf yn y lotment, maer posibiliadaun ddiddiwedd. 
Cysylltwch 芒 ni, byddwn yn eich helpu i hyrwyddo eich digwyddiad trwy ein 
tudalen facebook ac unrhyw gysylltiadau lleol sydd gennym.  
Mae rhai or digwyddiadau gwych syn rhedeg trwy Wythnos Bioamrywiaeth Cymru 
yng Ngogledd Ddwyrain Cymru wedi eu rhestru isod: 
3 鈥 6 Mehefin: Loggfest ym Mharc Gwledig Loggerheads, ger Yr Wyddgrug, Sir 
Ddinbych
Gwyl llawn hwyl ir teulu cyfan o gerddoriaeth wych, bwyd a diod. Am fwy o 
wybodaeth ewch i loggfest.co.uk.
5 - 11 Mehefin: Gwyl Gerdded Wrecsam www.walksinwrexham.com
Dydd Mawrth 7 Mehefin 11am: Campfa Werdd Sir y Fflint. Cyfarfod yng nghae 
Rygbir Leadmills, Wyddgrug, rhywfaint o waith rheoli cynefin ffisegol a 
phlannu blodau gwyllt. Gwisgwch ddillad ac esgidiau glaw priodol, bydd offer a 
menig yn cael eu darparu. 
Dydd Iau 9 Mehefin 10am: Pilates yn y planhigion. Dewch i fwynhau Pilates yn 
amgylchedd hardd Plas Newydd, Llangollen. Croeso i bob lefel. Dim angen unrhyw 
offer. Rhaid archebu lle erbyn dydd Gwener 3 Mehefin. Maer digwyddiad hwn yn 
ddibynnol ar y tywydd. Cyfarfod yn y meini hirion.
Dydd Iau 9 Mehefin 2pm: Tai chi o dan y coed. Parc Gwepra - Dewch draw i roi 
cynnig ar Tai chi ym Mharc Gwledig hyfryd Parc Gwepra, Cei Connah, Rhaid 
archebu erbyn dydd Gwener 3 Mehefin. Maer digwyddiad hwn yn ddibynnol ar y 
tywydd. Cyfarfod yn y ganolfan ymwelwyr.
Dydd Iau 9 Mehefin 3.45-5.15pm Anturiaethau Bychain ar 么l Ysgol Parc Gwledig 
Loggerheads. Archwiliwch a dysgwch am y byd naturiol gydar Warden yn y 
gweithgareddau ym Mharc Gwledig Loggerheads yn cynnwys trochi yn yr afon i 
ddarganfod y bywyd gwyllt anhygoel syn byw yno, gwneud cartrefi gwenyn i 
helpu鈥檙 pryfed hanfodol hyn, casglu dail a bod yn greadigol ac ymchwilio i fyd 
dirgel gwyfynod!
Dydd Iau 9 Mehefin 8.30 - 10pm: Bywyd Nos ym Moel Famau: Cyfarfod ym Maes 
Parcio Coed Moel Famau / SJ 174 613 Taith gerdded drwyr goedwig ac allan ir 
rhostir wrth iddi nosi - i weld pa anifeiliaid y gallem ddod o hyd iddynt yn y 
parc gwledig yn y nos. Dylem weld ystlumod, tylluanod a gwyfynod, ac efallai 
hyd yn oed y troellwr mawr swil. Archebwch ar 01352 810586 / 614.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch 芒 Sarah Slater ar naill ai 01352 703263 neu 
07968016884 neu e-bostiwch email sarah.slater@flintshire.gov.uk. Gweler hefyd y 
llyfryn Digwyddiadau Cefn Gwlad Sir y Fflint 2016 ar gael ar ein gwefan.
Os yw #fyamsergwyllt wedi rhoi blas i chi am yr awyr agored yna beth am fynd i 
rai o鈥檔 gweithgareddau mwy hynod fyth isod:
30 diwrnod gwyllt yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt ym mis Mehefin 
http://www.mywildlife.org.uk/30dayswild/  
Haf o fywyd gwyllt y BBC 鈥 gallwch  gael eich pecyn yn 
http://news.bbc.co.uk/1/shared/bsp/hi/pdfs/11-07-13summer_of_wildlife_handbook_u
pdated_version.pdf  
50 bethau iw gwneud cyn eich bod yn 13/4 yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 
http://www.nationaltrust.org.uk/50-things-to-do