Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Sir y Fflint yn croesawur Urdd!
  		Published: 27/05/2016
Am y tro cyntaf ers 1984, mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn dod i Sir y 
Fflint!  
A bydd Cyngor Sir y Fflint yn croesawu pawb iw pabell yn ystod yr wyl deuluol 
wythnos o hyd, lle bydd gwybodaeth i ymwelwyr ar gael a gwahanol weithgareddau 
i gymryd rhan ynddynt.
Meddair Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: 
Maen wych cael Eisteddfod yr Urdd yn 么l yn ein sir ac rwyn dymuno wythnos 
lwyddiannus iawn i bawb.  Mae llawer iw weld ai wneud ym mhabell Sir y Fflint 
- o wybodaeth am ein holl atyniadau gwych i dwristiaid a gwybodaeth i ymwelwyr, 
i weithgareddau crefft a hyd yn oed bwth lluniau!  Byddwn yn annog pawb i ddod 
draw i ddweud helo!
Roeddwn yn falch o allu cyflwyno Ysgol Trelogan yr wythnos ddiwethaf gydau 
gwobr ar gyfer yr ysgol sydd wedi鈥檌 haddurno orau.  
Cymerodd pedair ar ddeg o ysgolion cynradd ar draws y sir ran yn y 
gystadleuaeth ac roedd y safon yn uchel iawn.  Fe greodd gyffro go iawn ymhlith 
y disgyblion, a bydd llawer ohonynt yn perfformio yn yr Urdd.
Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ar gaeau Ysgol Uwchradd y Fflint.  Mae 
92% or ymwelwyr yn cytuno ei fod yn ddiwrnod allan gwych ir teulu cyfan.
 I gael rhagor o wybodaeth neu i gael rhestr lawn o brisiau tocynnau a 
gwybodaeth am ddigwyddiadau, ewch i urdd.cymru/eisteddfod.