Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Dathliadau yn dechrau ar gyfer 10fed Wythnos Fusnes Sir y Fflint 
  		Published: 19/05/2016
Mae digwyddiad busnes blaenllaw Cyngor Sir y Fflint, Wythnos Fusnes Sir y 
Fflint, yn dathlu ei 10fed pen-blwydd a bydd y dathliadau yn cychwyn ddydd Llun 
6 Mehefin pan fydd digwyddiad eleni yn cael ei lansio yn Neuadd Sychdyn yn 
Llaneurgain.  
Mae Wythnos Fusnes Sir y Fflint wedi symud i fis Medi a bydd yn cael ei gynnal 
27 i 30 Medi, a Gwobrau Busnes Sir y Fflint 2016 ar y dydd Gwener, 21 Hydref.
Yr wythnos fusnes, ar y cyd ag AGS Security Systems a Westbridge Furniture 
Designs, yw un or digwyddiadau pwysicaf oi fath yn y rhanbarth, gan ddenu 
dros 2,000 o fusnesau yn rheolaidd.  Maen cefnogi cymuned fusnes y sir, yn 
ogystal 芒 busnesau o鈥檙 rhanbarth ehangach, i hyrwyddo eu cwmn茂au, i ddatblygu 
cyfleoedd masnachu ac i godi proffil yr ardal fel lle i fuddsoddi ynddo. 
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd:
鈥淢ae Wythnos Fusnes Sir y Fflint wedi tyfu o nerth i nerth dros y 10 mlynedd 
diwethaf ac wedi croesawu dros 23,000 o gynrychiolwyr yn ystod y cyfnod hwnnw.  
Maer t卯m wedi cyflwyno mwy na 320 o ddigwyddiadau a maen hynod o bwysig i ni 
ein bod yn rhoi ein busnesau o bob maint ar y map.  Hoffwn ddiolch in prif 
noddwyr AGS Security Systems - noddwyr y Gwobrau Busnes a Westbridge Furniture 
Designs - noddwyr yr Arddangosfa Fusnes.  Heb eu cefnogaeth, ni fyddair 
digwyddiadau hyn wedi tyfu i fod yn achlysuron mor fawreddog ag y maent heddiw.
鈥淩haid i mi hefyd ddweud ein bod yn ffodus iawn o gael llysgennad busnes Sir y 
Fflint, y Gwir Anrh. Arglwydd Barry Jones, fel ein llywydd. 
鈥淗offwn annog pawb i ddod draw i鈥檙 digwyddiadau eleni ym mis Medi.鈥
I gadw lle yn y digwyddiad lansio, a gynhelir am 5.30pm ddydd Llun 6 Mehefin yn 
Neuadd Sychdyn, ewch in tudalen Eventbrite: 
https://fbw16_official_launch.eventbrite.co.uk.
Ar gyfer cyfleoedd noddi, i archebu stondin neu i gael rhagor o wybodaeth am yr 
holl ddigwyddiadau a gynhelir yn ystod yr Wythnos Fusnes, cysylltwch 芒 Th卯m 
Datblygu Busnes Sir y Fflint ar 01352 703219.