Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cabinet yn cytuno ar gyllid arloesol ar gyfer cynllun tai
  		Published: 20/05/2016
Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi cytuno i ddarparu cyllid cyfalaf i ariannu 
datblygiad o 62 o dai fforddiadwy yn y Fflint - y cyngor cyntaf yng Nghymru i 
gytuno ar y dull chwyldroadol hwn i ariannu tai fforddiadwy.
Maer 62 o eiddo yn ffurfio rhan o Raglen Tai a Chyllid Strategol y Cyngor 
(SHARP) syn bwriadu adeiladu 300 o dai fforddiadwy yn y sir rhwng 2016 ac 
2020. Y gost adeiladu a ragwelir ar hyn o bryd ar gyfer y cynllun yw 拢7.4M.  
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd NEW Homes, y Cynghorydd Bernie Attridge:
鈥淯nwaith y bydd y cartrefi hyn wediu hadeiladu, byddent yn cael eu rheoli gan 
NEW Homes (Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru), cwmni a sefydlwyd gan y Cyngor ym 
mis Ebrill 2014 i gynyddur opsiynau tai sydd ar gael i drigolion lleol.   
Cyfarfur bwrdd NEW Homes ar 26 Ebrill, ac ar 么l ystyried yn ofalus amrywiaeth 
o opsiynau, cytunwyd mai鈥檙 darparwr cyllid a ffafrir yw Cyngor Sir y Fflint.  
Gydar arian hwn yn ei le, bydd NEW Homes yn gallu ymestyn ei gynnig o dai 
fforddiadwy o ansawdd yn y Fflint ac ar draws y sir.鈥
Meddair Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: 
鈥淢ae鈥檔 ffordd wirioneddol arloesol a chyffrous i ariannu tai fforddiadwy ar 
gyfer ein trigolion.   Bydd y datblygiad hwn yn cefnogi cyflawni amcan 
strategol allweddol yng Nghynllun Gwellar Cyngor wrth gynhyrchu enillion 
ariannol ir Cyngor ar gyfer y 45 mlynedd nesaf.
鈥淕an fod NEW Homes yn gwmni newydd nid oes ganddo ddigon o hanes credyd i 
fenthyg yn uniongyrchol i ariannu鈥檙 cynllun The Walks yn annibynnol heb warant 
gan y cyngor. Ar 么l ystyried nifer o opsiynau prydlesu sector preifat eraill fe 
gytunodd y Bwrdd mai benthyca gan y Cyngor oedd eu llwybr o ddewis.
鈥淣id yn unig y byddair broses o sicrhau鈥檙 arian yn cael ei wneud yn gyflymach, 
gan alluogi cychwyn cynharach ar y safle, bydd y Cyngor yn gallu codi llog uwch 
i NEW Homes nag y gall fenthyca arno, ond mae鈥檔 debyg y bydd y gyfradd hon yn 
parhau i  fod yn is nar gyfradd y byddai NEW Homes yn gallu ei gyflawni ar 
gyfer y farchnad breifat.  Ar gyfer y Cyngor, mae hyn yn risg isel ac yn 
darparu llif incwm newydd y gellir ei efelychu yn y dyfodol ar gyfer 
blaenoriaethau strategol eraill.鈥
Unwaith y bydd y tai yn cael eu hadeiladu, bydd y Cyngor hefyd yn elwa o Dreth 
y Cyngor ychwanegol y bydd y tenantiaid syn byw yn yr eiddo newydd yn ei dalu.