Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gofyn barn am gynlluniau鈥檙 Cyngor ar gyfer ynni adnewyddadwy
  		Published: 18/05/2016
Mae preswylwyr Sir y Fflint yn cael eu gwahodd i rannu eu barn ar gynllun 
gweithredu ynni adnewyddadwy deng mlynedd drafft y Cyngor.
Bydd y cynllun uchelgeisiol yn gweld y Cyngor Sir yn creu ei ynni adnewyddadwy 
ei hun, trwy ddefnyddio rhai oi asedau tir sylweddol, yn amrywio o ffermydd i 
safleoedd tirlenwi wedi鈥檜 hadfer, parciau a choetiroedd, fel ffynonellau ynni 
adnewyddadwy.  Bydd hyn yn gynaliadwy ac yn broffidiol, gydar incwm a 
gynhyrchir yn helpur Cyngor Sir yn ei her barhaus i ganfod arbedion ac 
effeithlonrwydd. Bydd hefyd yn creu twf economaidd a swyddi lleol.
Mae pren gwastraff a gesglir ar safleoedd amwynder dinesig y Cyngor wedi ei 
nodi fel ffynhonnell bosibl o gynhyrchu pwer ar gyfer gwres a golau, gydag 
arbedion posibl a nodwyd o 拢500,000 y flwyddyn o leiaf. Mae mwy o blannu coed 
yn cael ei gynllunio, a fyddain creu ffynhonnell gynaliadwy o fiomas (sglodion 
coed, pelenni a logiau) a fyddai hefyd yn creu ardaloedd coetir ychwanegol, 
hygyrch ir cyhoedd.
Ymhlith ei uchelgeisiau hefyd mae鈥檙 posibilrwydd, fel ffordd o gynhyrchu ynni 
adnewyddadwy, gallair Cyngor fod yn gyflenwr ynni i bobl a busnesau lleol. Mae 
ffermydd solar hefyd yn cael eu hystyried, gyda lleoliadau iw penderfynu.
Mae ymgynghoriad cyhoeddus yn digwydd i ofyn i bobl fynegi barn am nodau ac 
amcanion y cynllun.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros 
yr Amgylchedd: 
鈥淢aer Cyngor hwn wedi ymrwymo i wneud ei gyfran deg i leihau ein h么l troed 
carbon, i ddefnyddio ynni mor effeithlon ag y gall ac i hyrwyddo 
effeithlonrwydd ynni ar bob cyfle.
鈥淏ydd ein cynllun gweithredu deng mlynedd, ar prosiectau arfaethedig o fewn 
iddo, 芒 manteision tymor hir ar gyfer y Cyngor a phreswylwyr Sir y Fflint, gyda 
ffynhonnell sylweddol bosibl o incwm, costau ynni is, ar budd cynaliadwy o 
allyriadau carbon is.
鈥淢aer ymgynghoriad hwn yn gyfle in preswylwyr a busnesau rannu eu barn ar ein 
cynllun uchelgeisiol, a byddwn yn annog cymaint o bobl 芒 phosibl i lenwir 
holiadur.
Maer holiadur ar gael yn www.siryfflint.gov.uk/YnniAdnewyddadwy. Y dyddiad cau 
ar gyfer ymatebion yw 29 Mehefin.