Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Marc Ansawdd i Dechraun Deg Sir y Fflint
Published: 18/05/2016
Mae Dechrau鈥檔 Deg Sir y Fflint wedi ennill y Marc Ansawdd CANparent am roi鈥檙
rhaglen Meithrin Cysylltiadau Teuluol ar waith ymhlith rhieni gofalwyr.
Mae鈥檙 Marc Ansawdd CANparent yn nodi鈥檙 hyn y mae鈥檔 rhaid i sefydliadau ei wneud
i brofi eu bod yn darparu gwasanaeth o safon benodol a hynny ar sail
tystiolaeth gadarn, arferion llywodraethu cryf, a gweithdrefnau rheoli arian a
rheoli risg dibynadwy. Hefyd, rhaid dangos iddynt ddangos bod ganddynt systemau
cadarn o hyfforddi, goruchwylio a mesur a gwerthuso canlyniadau.
Nid oes yr un marc ansawdd arall yn sicrhau bod sail dystiolaeth ar gyfer
darparu gwasanaethau o safon, llywodraethu鈥檔 effeithiol ac ymgysylltu 芒 rhieni.
Fe鈥檌 datblygwyd ar gyfer y sector, gan y sector. Yn bwysicach na dim, mae鈥檔
rhoi hyder i rieni y byddant yn cael gwasanaeth credadwy, o safon.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros
Wasanaethau Cymdeithasol:
鈥淢ae Marc Ansawdd CANparent yn sicrhau comisiynwyr fod sefydliad yn
gweithredu鈥檔 briodol ac yn darparu gwasanaethau gwerth chweil ac effeithiol i
rieni. I sicrhau hyn, roedd yn rhaid i raglen Dechrau鈥檔 Deg Sir y Fflint fynd
drwy broses asesu drylwyr a oedd yn cynnwys darparu tystiolaeth i ddangos bod
yr holl ddangosyddion wedi鈥檜 cyflawni mewn 4 safon. Mae hyn yn golygu y gellir
dibynnu ar ddosbarthiadau rhianta Dechrau鈥檔 Deg i wneud gwahaniaeth mawr, gan
wybod eu bod wedi鈥檜 seilio ar dystiolaeth, yn cael eu monitro a鈥檜 gwerthuso i
wella鈥檙 berthynas rhwng rhieni a鈥檜 plant.鈥
Bev Irvine, Cydgysylltydd Rhianta Dechraun Deg