Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Darpariaeth gofal yn Sir y Fflint 
  		Published: 16/05/2016
Yn ystod y cyfarfod Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 22 
Ebrill, cafodd Darparwyr Gofal Annibynnol yn Sir y Fflint gyfle i fynegi eu 
pryderon am y sector wrth Aelodau Craffu.  Yn y cyfarfod cytunwyd bod y sector 
gofal ar draws y sir yn wynebu heriau sylweddol yn ddi-oed ac yn yr hir dymor a 
bod Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi鈥檙 angen am ddiwygiad cenedlaethol o safbwynt 
cyllidor sector gofal cymdeithasol yng Nghymru. 
Mae鈥檙 Cyngor yn cydnabod y bydd dod o hyd i ateb cynaliadwy yn gofyn am 
adnoddau sylweddol a bod cyfle i gydweithio gyda phartneriaid iechyd er mwyn 
datrys cymhlethdodau鈥檙 sefyllfa, gan ddatblygu modelau mwy integredig o ofal a 
chefnogaeth. 
Meddair Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: 
 鈥淩oeddwn yn falch bod cynrychiolwyr Darparwyr Gofal Annibynnol yn Sir y Fflint 
wedi mynychu cyfarfod mis Ebrill or Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal 
Cymdeithasol. Bu鈥檙 drafodaeth yn y cyfarfod yn adeiladol iawn a bydd o gymorth 
i ni ddeall yr anawsterau y mae Darparwyr Gofal Annibynnol yn eu hwynebu a sut 
gallwn weithio tuag at ein nod cyffredin o ddarparu鈥檙 gwasanaethau gofal gorau 
i bobl Sir y Fflint yn y cyfnod heriol hwn. 
 鈥淏ydd y Cyngor yn ymgyrchu鈥檔 gyhoeddus i sicrhau bod anghenion y Sector Gofal 
yn dal i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth newydd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol 
Betsi Cadwaladr.  Sicrhau bod ein partneriaid yn cydnabod taw dyma un o鈥檙 
materion mwyaf anodd sy鈥檔 wynebau鈥檙 sector gyhoeddus. 
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol 
Cyngor Sir y Fflint:
 鈥淕yda鈥檔 partneriaid iechyd rydym yn archwilio amrywiaeth o fodelau darparu gan 
gynnwys modelau cydweithredol o ofal er mwyn cynnal yr economi gofal lleol ac 
rydym hefyd yn bwriadu cynyddun darpariaeth gofal cartref mewnol, gan 
weithion agos gyda darparwyr gofal.  Rydym hefyd yn datblygu cynllun er mwyn 
cynnal tri chartref gofal preswyl Cyngor Sir y Fflint ac mae cynlluniau eisoes 
yn eu lle i ymestyn y ddarpariaeth Gofal Ychwanegol yn y Fflint a Threffynnon.