Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cabinet i ystyried adroddiad Rheoli Fflyd
  		Published: 16/05/2016
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried adroddiad yn argymell newid i 
reolaeth fflyd cerbydau鈥檙 Sir pan fydd yn cyfarfod yr wythnos nesaf.
Maer adroddiad yn argymell bod contract 7 mlynedd yn cael ei ddyfarnu i 
Essential Fleet Services  (EFS) i gyflenwi, rheoli a chynnal y fflyd cerbydau 
cyfan, tran cadwr staff gweithdy mewnol a fydd yn cynnal y gweithgareddau 
cynnal a chadw ar ran y contractwr. 
Maer argymhelliad hwn yn dod ar gefn cyfnod ymgynghori helaeth ac ar 么l cyfnod 
tendro estynedig a oedd yn caniat谩u ir Cyngor weithio gydar cwmni ar nifer o 
faterion i sicrhau bod y fargen orau wedi鈥檌 chyflawni.  Mae hyn yn enghraifft 
arall o Gyngor Sir y Fflint yn bod mor effeithlon a modern yn ei arferion 
gwaith ag y bo modd er mwyn arbed arian i amddiffyn gwasanaethau rheng flaen.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros 
yr Amgylchedd:
鈥淢ae yna nifer o fanteision i鈥檙 Cyngor, yn enwedig yr arbedion cronnus dros 
saith mlynedd y contract sydd yn fwy na 拢2.5m.  Byddwn yn gweithio gyda 
phartner sydd 芒 phrofiad ac arbenigedd yn y gwaith o gaffael a chynnal a chadw 
fflydoedd mawr ar gyfer y sectorau cyhoeddus a phreifat, gyda dros 70 o 
gleientiaid ar draws y DU.  Byddant hefyd yn cynnig hyfforddiant a datblygu, 
gan rannu eu profiad o arfer gorau o redeg gweithdai yn effeithlon gydan 
staff.   Mae hwn yn ateb siop un stop ar gyfer darparu a chynnal a chadw 
fflydoedd, gan ryddhau adnoddau mewnol a lleihau costau gweinyddu a chostau 
cysylltiedig.鈥
Maer contract wedi ei gynllunio i roi blaenoriaeth i ddatblygu cyfleoedd 
busnes o fewn yr ardal leol, gan wneud y defnydd gorau o gyflenwyr a 
gwasanaethau lleol.