Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Model Cyflenwi Amgen (MCA) Hamdden a Llyfrgelloedd 鈥 mae鈥檙 Cyngor; y Gwasanaeth a Staff yn hyderus mai sefydliad cydfuddiannol a arweinir gan y gweithwyr ywr ffordd iawn o fwrw ymlaen
  		Published: 16/05/2016
Bydd y Cabinet yn ystyried argymhelliad pan fydd yn cyfarfod yr wythnos nesaf i 
greu sefydliad cydfuddiannol a arweinir gan y gweithwyr i ddarparu gwasanaethau 
hamdden a llyfrgell o 2017. 
Yng nghyfarfod mis Mawrth, ystyriodd y Cabinet y manteision a chefnogodd y 
cynnig mewn egwyddor, yn amodol ar ragor o wybodaeth am sut y byddai 
perchnogaeth yn gweithio a thystiolaeth bod y gweithwyr yn y gwasanaeth yn 
hyderus 芒r dull hwn.  
Maer manteision yn cynnwys arbedion a gynlluniwyd i鈥檙 gyllideb o hyd at 30% 
tran cadwr ystod bresennol o gyfleusterau a gwasanaethau a lleihau unrhyw 
ddiswyddiadau staff. 
Mae rhan or cynnig yn cynnwys trosglwyddo ased cymunedol Pwll Nofio Cei Connah 
a Chanolfan Hamdden Treffynnon. Mae Cambrian Aquatics i fod i gymryd rheolaeth 
ar Bwll Nofio Cei Connah o 30 Mai ac mae cynlluniau鈥檔 cael eu datblygu gan 
gymuned Treffynnon i drosglwyddor Ganolfan Hamdden mewn modd tebyg. 
Byddai gweddill y cyfleusterau ar gwasanaethau wedyn yn trosglwyddo i 
Sefydliad Cydfuddiannol wedi ei arwain gan y Gweithwyr yn ystod 2017. Bydd gan 
weithwyr ran ymarferol yn natblygiad y cynigion terfynol a chynlluniau 
gweithredu. Mae tri deg pedwar o weithwyr wedi ffurfio grwp llais y gweithlu i 
helpu i ddatblygur cynigion.  
Cyfarfu chwe aelod or grwp yn ddiweddar gyda chynghorwyr ac arweinwyr 
gwasanaethau i wneud sylwadau ar y cynllun busnes, nodi beth y maent yn teimlo 
yw eu rhan a nodi鈥檙 camau pwysig nesaf.  Cadarnhaodd pob parti eu bod yn 
hyderus i fwrw ymlaen 芒r cynnig. Bydd cynrychiolwyr yr arweinwyr gwasanaeth 
ar gweithlu wrth law yn y cyfarfod i rannu eu barn.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
 鈥淩wyf wedi fy mhlesion fawr gydag ymgysylltiad ac ymrwymiad y gweithwyr ac 
mae hyn yn rhoi hyder i mi y gellir cyflenwi hyn fel sefydliad cydfuddiannol 
wedii arwain gan y gweithwyr gyda staff yn cael rhan allweddol wrth wneud 
penderfyniadau allweddol a chynyddu perfformiad y gwasanaeth.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer 
Hamdden: 
 鈥淢aer MCA hwn, syn cynnwys sefydliad cydfuddiannol a ariennir gan y 
gweithiwr a throsglwyddo asedau Pwll Nofio Cei Connah a Chanolfan Hamdden 
Treffynnon, yn cynnig rhywbeth unigryw gan nad oes cynlluniau i gau 
cyfleusterau hamdden lleol na gwneud diswyddiadau mawr.
Dwedodd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Addysg gan 
gynnwys llyfrgelloedd:
 鈥淏ydd y cynnig hwn yn helpu cynnal y rhwydwaith o lyfrgelloedd rydym wedi 
gweithion galed i鈥檞 gyflwyno dros y 12 mis diwethaf ac sydd wedi cynnwys 
trosglwyddo asedau cymunedol nifer o lyfrgelloedd cymunedol yn ogystal 芒 
moderneiddio, adnewyddu ac ail-leoli Llyfrgell Glannau Dyfrdwy a bydd yn 
cynnwys datblygiad tebyg yn Llyfrgell Treffynnon.鈥