Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwyddiant prentisiaid Sir y Fflint
Published: 17/05/2016
Cafodd hyfforddeion Cyngor sy鈥檔 gweithio tuag at eu prentisiaethau neu sydd
wedi eu cwblhaun llwyddiannus eu llongyfarch mewn seremoni wobrwyo ddiweddar
yng Ngholeg Cambria.
Mae rhaglen hyfforddi Cyngor Sir y Fflint wedi ei sefydlu ers ugain mlynedd.
Bob blwyddyn caiff nifer o brentisiaid eu recriwtio i weithio ar draws y
Cyngor. Ar hyn o bryd mae 57 o hyfforddeion mewn lleoliadau ar draws y
sefydliad.
Mae鈥檙 prentisiaid fel arfer yn mynychu Coleg Cambria ar sail diwrnod astudio
dros ddwy neu dair blynedd tra byddant yn cael hyfforddiant ac asesiad yn y
gweithle.
Enillydd gwobr glodfawr Hyfforddai鈥檙 Flwyddyn Sir Y Fflint yw Madeleine
Henri-joy a dderbyniodd ei thlws gan Bennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Cambria,
David Jones.
Enwyd Philip Southern fel Hyfforddai Lefel Uwch y Flwyddyn a derbyniodd ei dlws
gan Colin Everett.
Y ddwy arall i gyrraedd y rownd derfynol oedd Nicole Askey a Mari Edwards.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton:
鈥滿ae creu a datblygu鈥檙 prentisiaethau yn flaenoriaeth allweddol i鈥檙 Cyngor ac
mae鈥檙 seremoni wobrwyo yn ffordd wych o ddathlu llwyddiant y rhai sy鈥檔 rhan o鈥檙
cynllun ar hyn o bryd. Mae鈥檙 rhaglen wedi tyfu ac wedi datblygu dros y
blynyddoedd ac mae bellach yn cynnig rhaglen lawn o gyfleoedd prentisiaeth gan
gynnwys gweinyddu, TGCh, cyfrifyddiaeth, cadwraeth amgylcheddol, peirianneg,
arlwyo, hamdden, rheoli cefn gwlad ac amryw o ddisgyblaethau crefft.鈥
Dywedodd y Prif Weithredwr Colin Everett:
鈥淩ydym yn falch iawn o鈥檔 cynllun prentis yn Sir y Fflint sy鈥檔 cael ei gydnabod
gan awdurdodau eraill a darparwyr addysg bellach fel arfer da gyda鈥檔
partneriaeth gyda Choleg Cambria. Byddwn yn parhau i ddarparu cyfleoedd i
brentisiaid astudio a chael profiad gwerthfawr ymarferol or gweithle ar yr un
pryd. Mae gennym raddfa lwyddiant wych gyda 98% o鈥檔 hyfforddeion yn cael eu
cyflogi un ai gyda鈥檙 Cyngor neun allanol ac mae rhai yn symud ymlaen i
Brifysgol i barhau gyda鈥檜 hastudiaethau.
鈥淟longyfarchiadau i鈥檔 holl hyfforddeion, i鈥檔 graddedigion, ac i enillwyr y
gwobrau. Dyma ffordd addas o ddathlu 20 mlynedd o鈥檙 rhaglen wych hon.鈥
Meddai David Jones:
鈥淩oeddwn wrth fy modd o gyflwyno Gwobr Hyfforddai鈥檙 Flwyddyn gan fod y
prentisiaid yn ysbrydoliaeth, mae angen canmol eu gwaith caled a鈥檜 hymrwymiad
i鈥檞 gwaith ac i鈥檞 haddysg. Mae mor dda gweld bod gan Gyngor Sir y Fflint ddull
mor gadarnhaol o hyfforddi a鈥檜 bod wedi llwyddo i benodi a datblygu
hyfforddeion mor dalentog.鈥
Mae Cynllun Uwch wedi ei gyflwyno ac eleni cychwynnwyd cynllun hyfforddi
graddedigion 鈥 gan recriwtio 3 person graddedig i ennill cymwysterau
proffesiynol.
Mae鈥檙 Cyngor bellach am recriwtio 20 o bobl i ymuno 芒 rhaglen brentisiaid
2016. Mae鈥檙 microwefan bellach yn fyw ac yn cynnwys gwybodaeth ar yr 20 o
brentisiaethau. Er mwyn gweld y wybodaeth ac i wneud cais, ewch i
www.flintshire.gov.uk/trainees/.